Disgrifiad Swydd
Cymrawd Ymchwil ac Arloesedd
ID y cais:  1945
Lleoliad y Swydd:  Caerdydd
Gweinyddiaeth:  School of Education, Childhood, Youth & Sport
Cyflog:  £38,784 - £46,049
Dyddiad Cau:  13 Hydref
Oriau Gweithio Wythnosol:  37
Math o Gontract:  Contract Cyfnod Penodol
Contract Cyfnod Penodol: Dyddiad Gorffen:  16 mis o'r dyddiad dechrau
Iaith Gymraeg::  Dymunol

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).

Y Rôl

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru a'r Ysgol Addysg, Plentyndod, Ieuenctid a Chwaraeon yn chwilio am Gymrawd Ymchwil ac Arloesedd i gefnogi partneriaeth ymchwil ac arloesedd gymwysedig â'r Gwasanaeth Natur a gaiff ei hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.  Bydd y rhaglen yn datblygu tystiolaeth, gwybodaeth rhanddeiliaid a fframweithiau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi'r Gwasanaeth Natur – sef menter genedlaethol sy'n dod i'r amlwg sy'n sicrhau bod dysgu, cyfrannu, sgiliau, profiadau a llwybrau seiliedig ar natur i waith yn fwy gweladwy, cysylltiedig a hygyrch ledled Cymru. Bydd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ac yn mynd i'r afael â mynediad anghyfartal i gyfleoedd sy'n seiliedig ar natur.

Gan weithio o fewn rhaglen y cytunwyd arni a gyda goruchwyliaeth academaidd a gan bartneriaid, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflawni elfennau sylweddol ar y gwaith ymchwil. Bydd hyn yn cynnwys arwain adolygiadau o dystiolaeth a mapio'r ddarpariaeth, dylunio a chynnal gwaith maes, cynllunio a hwyluso gweithgarwch cyd-ddylunio, dadansoddi a syntheseiddio canfyddiadau a llunio allbynnau ac argymhellion ymarferol sy'n canolbwyntio ar bolisïau. 

Mae'r swydd hon yn ddibynnol ar sicrhau cyllid allanol; os na fydd y cyllid yn cael ei sicrhau, bydd y broses recriwtio yn dod i ben.

Cysylltwch â Sarah Allberson, Uwch Reolwr Sgiliau ag Arloesedd am sgwrs anffurfiol am y rôl: sarah.allbeson@open.ac.uk

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Ymgymryd ag adolygiadau o lenyddiaeth a pholisïau ac adolygiadau cymharol yn cwmpasu dysgu seiliedig ar natur, eco-lenyddiaeth, cyfranogiad ieuenctid, llwybrau sgiliau, achrediad, cyflogadwyedd ac adferiad natur.
  • Mapio'r ddarpariaeth bresennol yng Nghymru yn ogystal â chymharwyr perthnasol o'r DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys llwybrau dysgu ffurfiol ac anffurfiol.
  • Dylunio, cynnal a gwerthuso gweithgarwch ymchwil ansoddol, cyfranogol neu ddull cymysg, fel cyfweliadau, grwpiau ffocws, gweithdai, astudiaethau achos, arolygon neu ddadansoddiad dogfennol.
  • Arwain y gwaith o ddadansoddi a syntheseiddio tystiolaeth a gwybodaeth rhanddeiliaid i lywio modelau cysyniadol, argymhellion ymarferol ac opsiynau ar gyfer llwybr cenedlaethol, model cydnabod a fframwaith cyfranogiad cyffredinol.
  • Cynllunio a darparu gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyd-ddylunio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid fel eNGOau, grwpiau ieuenctid, ysgolion, darparwyr addysg bellach ac addysg uwch, cyflogwyr, awdurdodau lleol a gwneuthurwyr polisi.
  • Cymryd cyfrifoldeb dros lunio adroddiadau, briffiau, cyflwyniadau, papurau gwneud penderfyniadau ac allbynnau eraill yn glir ar gyfer cynulleidfaoedd academaidd, polisi, ymarfer a phartneriaeth.
  • Cyfrannu at y gwaith o gynllunio prosiect, cydlynu cyfarfodydd, olrhain cerrig milltir, cadw cofnodion, rheoli data ac adrodd yn unol â gofynion GDPR a gofynion moesegol a sefydliadol.
  • Helpu i ddatblygu cysyniadau peilot, ehangu argymhellion a chynigion ariannu yn y dyfodol, gan ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r radd a natur y swydd.
  • Rheoli llinynnau gwaith y cytunwyd arnynt yn annibynnol, gan gynnal momentwm yn erbyn cerrig milltir prosiectau a rhoi gwybod am risgiau neu ddibyniaethau'n brydlon.

Amdanoch Chi

Meini prawf hanfodol:

Cymwysterau a'r gallu i ymchwilio

  • Astudiaeth academaidd ôl-raddedig neu ddoethurol neu brofiad ymchwil broffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth berthnasol fel gwyddorau cymdeithasol, addysg, astudiaethau ieuenctid, gwyddorau cymdeithasol amgylcheddol, cynaliadwyedd, polisi cyhoeddus, daearyddiaeth neu ddatblygu cymunedol.
  • Sgiliau academaidd cryf, gan gynnwys y gallu i ddehongli llenyddiaeth, syntheseiddio tystiolaeth, datblygu fframweithiau ac ysgrifennu'n glir ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.
  • Profiad o ddefnyddio dulliau ymchwil perthnasol, yn enwedig dulliau ansoddol, cyfranogol, cymwysedig neu ddulliau cymysg, ac o gwblhau gweithgarwch ymchwil o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt.
  • Profiad o ymchwil neu ymarfer yn ymwneud â dysgu seiliedig ar natur, addysg amgylcheddol, adferiad natur, cynaliadwyedd, eco-lenyddiaeth, sgiliau gwyrdd, cyfranogiad ieuenctid, neu ddysgu cymunedol.
  • Dangos y gallu i ddylunio ac ymgymryd ag adolygiadau cwmpasu a naratif systematig, gan gynnwys datblygu strategaethau chwilio priodol, prosesau dethol tryloyw, arfarniadau critigol a syntheseiddio tystiolaeth
  • Profiad o ddylunio a hwyluso’r broses o gyd-ddylunio neu gyfrannu at ymchwil gyda phobl ifanc, cymunedau neu randdeiliaid anacedemaidd eraill, gan gynnwys y gallu i greu cyfleoedd hygyrch a chynhwysol i gymryd rhan
  • Profiad o ymgymryd â gwaith ymchwil moesegol sy'n ymwneud â phobl ifanc neu grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Defnyddio arloesedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid

  • Y gallu i gydweithio ar draws ffiniau disgyblaethol, sefydliadol a'r sector, gan feithrin cydberthnasau adeiladol â phartneriaid mewnol ac allanol.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys y gallu i esbonio pynciau cymhleth i gynulleidfaoedd academaidd, polisi, ymarfer a'r cyhoedd.
  • Y gallu i gyfrannu at weithgarwch cyfnewid gwybodaeth ac effaith, gan gynnwys gweithdai, sesiynau briffio, cyflwyniadau a digwyddiadau i randdeiliaid.
  • Diddordeb amlwg mewn dysgu seiliedig ar natur, eco-lenyddiaeth, cyfranogiad ieuenctid, llwybrau sgiliau, diben cymdeithasol, cynhwysiant neu feysydd perthnasol yn ymwneud ag ymchwil ac arloesedd.

Cyflawni prosiect ac ymarfer proffesiynol

  • Y gallu i gynllunio a blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun, yn ogystal â bodloni terfynau amser, cynnal cofnodion cywir a gweithio'n effeithiol mewn cyd-destun datblygu partneriaeth byw.
  • Sgiliau datrys problemau da a'r gallu i ymateb yn hyblyg i flaenoriaethau sy'n newid ar gyfer prosiect, gan uwchgyfeirio materion fel y bo'n briodol.
  • Yn gallu defnyddio TG, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio adnoddau cydweithio, y storfa ddiogel, a rheoli data a, lle y bo'n berthnasol, meddalwedd dadansoddi data ansoddol a meintiol yn hyderus.

Gwerthoedd a ffyrdd o weithio

  • Y gallu i gyflawni'r rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol gan feddu ar ddealltwriaeth o degwch, hygyrchedd, llais ieuenctid, llesiant, ymgysylltiad cymunedol a diben cymdeithasol.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan feddu ar ddull hyblyg, rhagweithiol a chydweithredol.
  • Yn frwdfrydig dros ymchwil sydd â gwerth ymarferol o ran polisi, ymarfer, cymunedau a dysgwyr.
  • Y gallu i deithio ledled Cymru i gynnal gwaith maes, cyfarfodydd, gweithdai a gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ôl yr angen.
  • Paratoi a chefnogi prosesau moesegol ymchwil a sicrhau bod y gwaith maes yn dilyn gofynion priodol mewn perthynas â chydsyniad gwybodus, diogelu, cyfrinachedd, hygyrchedd a diogelu data.

 

Meini prawf dymunol:

  • Profiad o ddulliau cyfranogol, cyd-ddylunio neu ymgysylltu â'r cyhoedd mewn perthynas â phobl ifanc, cymunedau neu grwpiau rhanddeiliaid amrywiol.
  • Profiad o ddatblygu achrediad, cydnabyddiaeth, bathodynnau digidol, mân gymwysterau, fframweithiau sgiliau, modelau cynnydd neu fapio llwybrau ffurfiol ac anffurfiol.
  • Profiad o ysgrifennu neu gyfrannu at gynigion ariannu ymchwil.
  • Profiad o ddefnyddio dulliau digidol, symudol neu dechnolegol i ymgysylltu a chasglu, dysgu neu ddosbarthu data.
  • Gwybodaeth am dirwedd dysgu Cymru a/neu'r sector natur a'r gallu i fynd i gyfarfodydd yn bersonol yng Nghymru.
  • Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, neu'r parodrwydd i gefnogi ymgysylltiad dwyieithog lle y bo'n briodol.

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Lleoliad Gweithio: Rhagwelir y gellir mabwysiadu trefniant gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod contract y rôl hon yn cyd-fynd â'n Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd rhywfaint o bresenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl i hyn fod yn ddeuddydd yr wythnos, ond gallai fod yn amlach yn unol ag anghenion busnes. Caiff gweithio'n llawn amser yn ein safle yng Nghaerdydd ei gefnogi hefyd os bydd yr ymgeisydd yn dewis gwneud hynny. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Mae'n debygol y cynhelir cyfweliadau ddiwedd mis Hydref/dechrau mis Tachwedd.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar.

Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthi’n gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r dogfennau canlynol:

  • Datganiad Ategol hyd at 1,500 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam y mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn bodloni meini prawf hanfodol y rôl hon fel y'u nodir uchod.
  • CV


Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Cipolwg ar Wybodaeth
Rhannwch y swydd hon

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y broses recriwtio, neu ynghylch eich cais, cysylltwch â: Careers@open.ac.uk.

Chwilio am rolau Darlithydd Cysylltiol?

Defnyddiwch ein hafan Darlithwyr Cysylltiol i ddod o hyd i rolau Darlithwyr Cysylltiol.

Chwiliwch am rolau Darlithwyr Cysylltiol nawr >

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau staff.