Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).
Y Rôl
Rydym yn chwilio am weithiwr marchnata proffesiynol talentog a brwdfrydig i ymuno â'r Brifysgol Agored yng Nghymru ac i helpu i gynnal ymgyrchoedd diddorol sy'n cefnogi'r broses o recriwtio myfyrwyr a chodi ymwybyddiaeth o'r brand ledled Cymru. Gan weithio fel rhan o'n tîm Digidol, Marchnata a Chyfathrebu, byddwch yn helpu i ddatblygu a chynnal gweithgarwch marchnata aml-sianel sy'n helpu i gysylltu darpar fyfyrwyr â chyfleoedd sy'n newid bywyd a gynigir gan Y Brifysgol Agored.
Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil sy'n cynnig y cyfle i weithio ar draws amrywiaeth eang o ymgyrchoedd a sianeli, gan weithio â chydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol yn ogystal ag asiantaethau a phartneriaid allanol. Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio a chynnal ymgyrchoedd, helpu i fonitro a gwerthuso perfformiad, sicrhau cydymffurfiaeth y brand, a defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi proses gwneud penderfyniadau'n effeithiol.
Byddai'r rôl yn addas i rywun sy'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol, yn angerddol dros farchnata, ac sydd â diddordeb penodol mewn cynnal ymgyrchoedd o ansawdd uchel sy'n cyflawni canlyniadau mesuradwy. Fel rôl tymor penodol o 12 mis, mae'n gyfle rhagorol i ddatblygu eich profiad mewn sefydliad a gaiff ei barchu sy'n sicrhau bod addysg uwch yn hygyrch i bobl o bob cwr o Gymru. Gellir cyflawni'r rôl yn hybrid, gan weithio dau ddiwrnod yn swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghymru yng Nghaerdydd a thri diwrnod o bell.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Helpu Cyfarwyddwr Cynorthwyol MarComms Digital i ddatblygu a darparu cynlluniau marchnata ac ymgyrchoedd recriwtio myfyrwyr sy'n cyfrannu at broses Y Brifysgol Agored i gaffael myfyrwyr, ymwybyddiaeth o'r brand ac amcanion y busnes.
- Helpu i ddarparu a chydlynu gweithgarwch marchnata aml-sianel ar sianeli digidol ac all-lein, gan weithio gyda thimau mewnol, asiantaethau allanol a phartneriaid i sicrhau y caiff ymgyrchoedd eu cynnal yn effeithiol ac yn unol â'r briffiau, yr amserlenni a'r cyllidebau y cytunwyd arnynt.
- Monitro perfformiad ymgyrchoedd, helpu i roi prosesau olrhain a gwerthuso ar waith, a llunio adroddiadau'n rheolaidd er mwyn helpu i wella gweithgarwch a'r enillion ar fuddsoddiad. Cynnal gwerthusiad ar ôl ymgyrchoedd a rhannu canfyddiadau ac argymhellion er mwyn helpu i gynllunio a datblygu gweithgarwch marchnata yn y dyfodol.
- Defnyddio gwybodaeth am y farchnad, gwybodaeth gan y gynulleidfa a data perfformiad er mwyn helpu i wneud penderfyniadau am gyfleoedd twf, gan helpu i sicrhau bod y gweithgarwch marchnata yn bodloni'r amcanion y cytunwyd arnynt.
- Meithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol ag unigolion o bob rhan o'r Brifysgol yn ogystal â chyflenwyr allanol, gan roi cyngor a chymorth marchnata i gydweithwyr wrth sicrhau bod holl ddeunyddiau ymgyrchoedd a marchnata yn gyson â chanllawiau brand Y Brifysgol Agored. Gweithio gyda chydweithwyr ac asiantaethau partner er mwyn helpu i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu i safon uchel a bod gweithgarwch marchnata yn cael ei gwblhau yn unol â'r briffiau, amcanion, amserlenni a'r cyllidebau y cytunwyd arnynt.
- Gweithredu fel rheolwr llinell o ddydd i ddydd i'r Cynorthwyydd Marchnata, gan oruchwylio'r broses o ddyrannu a blaenoriaethu gwaith ar ei gyfer a sicrhau bod ei waith yn bodloni'r amcanion gofynnol yn effeithiol. Bydd angen i chi hefyd gefnogi ei ddatblygiad a'i lesiant, a chyfrannu at y gwaith o sicrhau bod y tîm ehangach yn gweithredu'n effeithiol.
- Cynrychioli'r Brifysgol Agored a'r tîm Digidol, Marchnata a Chyfathrebu mewn cyfarfodydd mewnol, digwyddiadau allanol a sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ôl yr angen.
Amdanoch Chi
Hanfodol:
- Gradd a chymwysterau proffesiynol perthnasol neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth marchnata, hysbysebu neu ddisgyblaeth yn ymwneud â busnes.
- Profiad o weithio mewn rôl farchnata gyfatebol a chynnal ymgyrchoedd marchnata aml-sianel, gan gynnwys gweithgarwch marchnata all-lein a digidol, yn llwyddiannus.
- Dealltwriaeth o gaffael a marchnata brand ar draws amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys yn ddigidol, ar gyfryngau cymdeithasol, PPC, SEO, y wasg, y radio, hysbysebu yn yr awyr agored, digwyddiadau a gweithgarwch marchnata arall.
- Profiad o fod yn rheolwr llinell o ddydd i ddydd, gan gynnwys dyrannu / blaenoriaethu llwyth gwaith a chefnogi llesiant a datblygiad.
- Profiad o gydweithio â rhanddeiliaid mewnol, asiantaethau allanol a phartneriaid i ddarparu gweithgarwch sy'n bodloni amcanion, amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt wrth gydbwyso blaenoriaethau sy'n gwrthdaro ac anghenion rhanddeiliaid.
- Sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a rheoli cydberthnasau rhagorol, gyda'r gallu i lunio ac addasu negeseuon ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, gan feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol a chyfleu syniadau'n glir ac mewn ffordd ddarbwyllol.
- Y gallu i ddehongli, crynhoi a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan ddefnyddio data a gwybodaeth er mwyn helpu i werthuso, nodi cyfleoedd a chyfrannu at argymhellion marchnata ar gyfer y dyfodol.
- Yn rhifog ac yn ymwybodol o faterion ariannol, gyda dealltwriaeth o brosesau rheoli cyllideb a mesurau perfformiad marchnata.
- Sgiliau sefydliadol cryf, gyda'r gallu i reoli sawl prosiect a blaenoriaethau sy'n gwrthdaro, gan weithio i derfynau amser tynn a chynnal lefel uchel o gywirdeb a sylw at fanylder.
- Yn greadigol, yn rhagweithiol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau, gyda'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth, defnyddio menter a barn, datrys problemau'n ddidrafferth ac yn broffesiynol a chyfrannu syniadau sy'n cefnogi amcanion marchnata a gwelliant parhaus.
- Yn gallu gweithio'n dda mewn tîm gyda meddylfryd cadarnhaol ac adeiladol.
Dymunol:
- Cymhwyster Marchnata perthnasol.
- Y gallu i ddeall Cymraeg ysgrifenedig / llafar.
Cymorth gyda'ch cais
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Beth yw'r buddion i chi?
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.
Lleoliad gweithio
Rhagwelir y gellir mabwysiadu trefniant gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gallwch weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i halinio i'n swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd angen i ddeiliad y rôl weithio o'n campws yng Nghaerdydd o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos, gyda hyblygrwydd i fynd i'r campws yn rheolaidd yn dibynnu ar anghenion busnes.
Rhagor o wybodaeth
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Nodwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad neu unrhyw ffurf arall o asesu. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd os bydd angen.
Camau nesaf yn y broses Recriwtio
Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, rydym yn rhagweld y bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 29 neu 30 Hydref.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar.
Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthi’n gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
- CV
- Datganiad Ategol (Ni ddylai eich Datganiad Ategol fod yn fwy na 1000 o eiriau a dylai amlinellu sut mae eich sgiliau a'ch profiad presennol yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol a restrir uchod).
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.