Disgrifiad Swydd
Tiwtor Cwricwlwm Saesneg
ID y cais:  1836
Lleoliad y Swydd:  Caerdydd
Gweinyddiaeth:  Education
Cyflog:  £47,389 i £56,535
Dyddiad Cau:  26 Awst 2026
Oriau Gweithio Wythnosol:  37
Math o Gontract:  Contract Cyfnod Penodol
Contract Cyfnod Penodol: Dyddiad Gorffen:  36 mis o'r dyddiad dechrau
Iaith Gymraeg::  Dymunol

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).

Y Rôl

Rydym wrthi'n recriwtio ar gyfer Tiwtor Cwricwlwm i gefnogi'r Rhaglen TAR yn Y Brifysgol Agored, sy'n cynnig dau lwybr i addysgu yng Nghymru, sef llwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth neu lwybr astudio rhan-amser.

Bydd deiliad y rôl yn rhan o'r tîm Tiwtoriaid Cwricwlwm ar gyfer rhaglen TAR a bydd ganddo gyfrifoldeb penodol dros y llwybr Saesneg Uwchradd. Bydd deiliad y rôl yn addysgu ac yn asesu athrawon dan hyfforddiant ar draws amrywiaeth o feysydd cwricwlwm AGA craidd a phroffesiynol, yn ogystal â darparu addysg a chymorth arbenigol mewn perthynas â'r chwricwlwm pwnc Saesneg. Bydd deiliad y rôl hefyd yn cefnogi athrawon dan hyfforddiant sy'n dilyn y llwybr Saesneg i ddatblygu eu haddysgu mewn ail bwnc israddol, fel y Cyfryngau neu Ddrama, ac mewn meysydd cysylltiedig o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Byddwch yn gweithio'n agos gydag athrawon dan hyfforddiant, ysgolion partner ac eraill er mwyn sicrhau ansawdd y rhaglen a'r ffordd y caiff ei chyflwyno ledled Cymru drwy diwtora o bell ar-lein yn ogystal â chyfrannu at weithgarwch a gwaith ehangach Partneriaeth AGA Y Brifysgol Agored.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cynllunio a chynnal seminarau ar-lein, cyfrannu at y gwaith o gynnal a chynhyrchu deunyddiau ar-lein ac ymgymryd ag asesu grwpiau penodol o fyfyrwyr.
  • Gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y Tîm Cynhyrchu Academaidd a leolir yn Milton Keynes a phartneriaid cyflwyno'r Consortia Rhanbarthol/Awdurdod Lleol ac Ysgolion yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn gydlynol.
  • Marcio portffolios myfyrwyr ar ddiwedd pob lefel astudio (tair lefel) gan gynnwys adroddiadau ar eu Hymarfer Ysgol.
  • Rhoi adborth i fyfyrwyr ar eu gwaith academaidd mewn modd adeiladol ac effeithiol.
  • Addysgu grwpiau o fyfyrwyr yn uniongyrchol ac yn rhyngweithiol drwy'r adnodd cynadledda Adobe Connect a chyfathrebu yn anghydamseredig drwy fforymau ar-lein.
  • Gweithredu fel yr arweinydd academaidd cyfrifol ar gyfer eich pwnc yn y rhaglen TAR a bod yn atebol am sicrhau ansawdd y pwnc gan ESTYN.
  • Cymryd rhan mewn Byrddau Arholi a Sicrhau Ansawdd drwy'r Pwyllgor Partneriaeth yn ôl y gofyn.
  • Ymchwilio i addysg yng Nghymru – naill ai drwy barhau â diddordebau ymchwil presennol gan arwain o bosibl at gyflwyniad i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil neu drwy gofrestru ar raglen Doethur mewn Addysg.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o reoli a hyfforddi Mentoriaid a Thiwtoriaid Ymarfer ledled Cymru.
  • Cyfrannu'n ehangach at weithgareddau'r Rhaglen, y Brifysgol Agored yng Nghymru a'r Ysgol Addysg, Plentyndod, Ieuenctid a Chwaraeon yn ôl y gofyn.

Amdanoch Chi

Hanfodol:

  • Gradd Anrhydedd.
  • Byddwch yn meddu ar gymhwyster ôl-raddedig lefel uwch hyd at lefel Meistr o leiaf mewn maes proffesiynol sy'n gysylltiedig ag AGA neu addysg neu PhD mewn maes proffesiynol sy'n gysylltiedig ag AGA neu addysg. Bydd angen i ymgeiswyr ar lefel Meistr ddangos yr ymrwymiad i gofrestru ar gyfer Doethuriaeth mewn Addysg a addysgir yn y Brifysgol Agored. 
  • Statws Athro Cymwysedig
  • Profiad o addysgu Saesneg mewn cyd-destun ysgol. 
  • Meistrolaeth ardderchog ar Saesneg yn ysgrifenedig ac ar lafar, ynghyd â'r gallu i addysgu ar-lein, a chyfathrebu'n yn glir ac yn ddylanwadol â myfyrwyr a rhanddeiliaid.
  • Gwybodaeth a phrofiad sy'n angenrheidiol er mwyn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a chyflwyno deunyddiau addysgu mewn cwricwlwm sy'n gysylltiedig ag AGA. 
  • Gwybodaeth am faes AGA a dealltwriaeth o ddulliau gweithredu AGA yng Nghymru. 
  • Y gallu i weithio'n effeithiol ac yn hyblyg mewn tîm a chydweithio ag eraill mewn tîm. 
  • Y gallu amlwg i gynllunio a threfnu baich gwaith yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt, gydag adnoddau cyfyngedig, ac weithiau o dan bwysau. 
  • Tystiolaeth amlwg o fod wedi defnyddio TGCh at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys dysgu ac addysgu, a thystiolaeth o ddeall potensial technolegau newydd a rhai sydd wrthi'n cael eu datblygu i wella dysgu. 
  • Y gallu i ymwneud ag ymchwil ac ysgolheictod drwy weithgareddau megis cyhoeddiadau a/neu gyfraniadau at ddysgu ac addysgu a gydnabyddir ac a ddosberthir yn eang. 
  • Gwybodaeth am y Cwricwlwm newydd i Gymru ac ymwybyddiaeth o newidiadau i addysgu yng Nghymru.
  • Y gallu i deithio at ddibenion gwaith a pharodrwydd i wneud hynny, byw o fewn pellter teithio rhesymol i'r Brifysgol Agored yng Nghaerdydd a gweithio yng Nghymru am fwy na 50% o'r amser dan gontract. 
  • Y gallu i roi arferion cynhwysol a theg ar waith wrth gyflawni'r rôl.

Dymunol:

  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i safon uchel (dymunol iawn). 
  • Profiad o addysgu Addysg Uwch a chynllunio modiwlau sy'n ennyn diddordeb myfyrwyr ac yn eu cadw, neu botensial amlwg i gyfrannu at y broses hon. 
  • Profiad o addysgu ym maes addysg uwch gan gynnwys creu a marcio asesiadau. 
  • Meistrolaeth ar ddwyieithrwydd, amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig.
  • Cymhwyster addysgu mewn cyd-destun Addysg Uwch.

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Lleoliad Gweithio:Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i halinio o dan gontract i'n swyddfa yng Nghaerdydd, bydd disgwyl i'r deiliad fod yn bresennol yn y swyddfa pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl i hyn fod yn ddeuddydd y mis, ond gallai fod yn amlach yn unol ag anghenion busnes. Caiff gweithio'n llawn amser yn ein safle yng Nghaerdydd ei gefnogi hefyd os bydd yr ymgeisydd yn dewis gwneud hynny. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Mae'n debygol y cynhelir cyfweliadau ddiwedd mis Medi i ddechrau mis Hydref 2026.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar.

Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthi’n gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r dogfennau canlynol:

  • Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam y mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn bodloni meini prawf hanfodol y rôl hon fel y'u nodir uchod.
  • CV


Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Cipolwg ar Wybodaeth
Rhannwch y swydd hon

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y broses recriwtio, neu ynghylch eich cais, cysylltwch â: Careers@open.ac.uk.

Chwilio am rolau Darlithydd Cysylltiol?

Defnyddiwch ein hafan Darlithwyr Cysylltiol i ddod o hyd i rolau Darlithwyr Cysylltiol.

Chwiliwch am rolau Darlithwyr Cysylltiol nawr >

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau staff.