Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).
Y Rôl
Mae Tiwtoriaid Staff yn aelodau o staff academaidd yr Ysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (HWSC) yn y Gyfadran Lles, Addysg ac Astudiaethau Iaith (WELS). Maen nhw’n chwarae rôl hanfodol yn narpariaeth model addysg dysgu agored â chymorth Y Brifysgol Agored (OU); yn cyfrannu at gyflwyno modiwlau a chymwysterau a chymryd rhan mewn ymchwil ac ysgolheictod sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol yr Ysgol a’r Gyfadran. Mae Tiwtoriaid Staff yn cynrychioli'r Brifysgol Agored ar grwpiau strategol cenedlaethol a lleol, yn darparu arweinyddiaeth academaidd ac yn rheolwyr llinell i Diwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer sy'n darparu cefnogaeth academaidd a chefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr y Brifysgol Agored. Mae'r swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i gefnogi recriwtio a dewis ar gyfer rhaglenni proffesiynol ac am reoli dysgu ymarfer sy'n ymwneud â phortffolio cymwysterau'r Ysgol yn weithredol. Felly, dylai ymgeiswyr feddu ar gymwysterau a phrofiad perthnasol. Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm wedi’i lleoli Nghymru ac efallai y bydd yn ofynnol iddo deithio ar draws y wlad ac o bryd i'w gilydd i Milton Keynes a rhannau eraill o'r DU.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cyfrannu at reoli cymwysterau proffesiynol yn effeithiol a gweithio'n strategol gydag asiantaethau, cyflogwyr a chyrff rheoleiddio i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio allanol a mewnol.
- Hyrwyddo rhaglenni proffesiynol y Brifysgol Agored a chymwysterau eraill i noddwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.
- Gweithio ar y cyd â chydweithwyr a sefydliadau partner wrth recriwtio a dewis myfyrwyr i gofrestru ar gyfer rhaglenni proffesiynol a chymwysterau eraill.
- Rhoi cefnogaeth weithredol ar gyfer y rhaglenni proffesiynol a'r modiwlau iechyd a gofal cymdeithasol cysylltiedig drwy fod yn rheolwr llinell i Diwtoriaid Modiwlau a Thiwtoriaid Ymarfer a sicrhau ansawdd yr holl ddysgu.
- Cyfrannu at recriwtio, rheoli, cefnogi a datblygiad staff Tiwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer mewn partneriaeth â Gwasanaethau Darlithwyr Cyswllt, gan ystyried pwysigrwydd darpariaeth o ansawdd uchel.
- Trefnu darpariaeth a phrosesau tiwtorial priodol a sicrhau ansawdd gohebiaeth, hyfforddiant, hyfforddiant wyneb yn wyneb, hyfforddiant ar-lein ac asesu ymarfer.
- Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno modiwlau a chymwysterau dysgu o bell a chynghori'r Ysgol ar gynnwys a strategaethau addysgu modiwlau a chymwysterau yng ngoleuni adborth gan yr holl Ddarlithwyr Cyswllt a myfyrwyr.
- Yn unol â strategaeth Pedair Gwlad y Brifysgol, gweithio gyda chydweithwyr yn yr Ysgol a'r Gyfadran ehangach i sicrhau ymwybyddiaeth o'r cyd-destun polisi a’r cyd-destun deddfwriaethol.
- Cynorthwyo timau modiwlau a chymwysterau i fonitro, graddio a sicrhau ansawdd adborth ar aseiniadau myfyrwyr a phortffolios ymarfer sy’n cael eu hasesu gan Diwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer.
- Datblygu a gweithredu cynllun ymchwil ac ysgolheictod personol sy'n cyd-fynd â Strategaeth Ymchwil ac Ysgolheictod a chyfnewid gwybodaeth yr Ysgol a'r Gyfadran.
- Cynrychioli'r Ysgol, y Gyfadran a'r Brifysgol Agored mewn pwyllgorau a grwpiau allanol lleol a pherthnasol strategol; gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector Annibynnol a Statudol, Prifysgolion eraill a'r Llywodraeth berthnasol.
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ôl yr angen.
Amdanoch Chi
Hanfodol:
- Gradd gyntaf dda (ail ddosbarth uchaf neu uwch) neu gymhwyster Ôl-raddedig mewn maes pwnc sy'n berthnasol i nyrsio, iechyd a/neu ofal cymdeithasol;
- Cymhwyster proffesiynol mewn cefndir proffesiynol perthnasol;
- Cofrestriad presennol gyda'r corff proffesiynol perthnasol;
- Profiad o gefnogi dysgu ymarfer;
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o addysg broffesiynol, gan gynnwys y safonau a'r gofynion rheoleiddio ar gyfer rhaglenni proffesiynol;
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion cyfredol ym maes iechyd a/neu ofal cymdeithasol;
- Profiad o addysgu ac addysg ymarferol;
- Profiad o weithio'n annibynnol; i fodloni terfynau amser, blaenoriaethu tasgau, a datrys problemau cymhleth mewn ffordd sensitif ac adeiladol;
- Profiad o ddefnyddio technoleg gwybodaeth (TG) at ddibenion cyfathrebu ac addysgu ac i gyrchu a defnyddio data i gefnogi cyflwyno modiwlau a chymwysterau;
- Gallu amlwg i gefnogi datblygiad proffesiynol Tiwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer;
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gan gynnwys y gallu i fynegi syniadau'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig;
- Dealltwriaeth gadarn o anghenion oedolion sy'n dysgu;
- Y gallu i hyrwyddo darpariaeth ddysgu HWSC i unigolion a chwsmeriaid corfforaethol ac i ddatblygu a chefnogi partneriaethau lleol;
- Y gallu i gynnal y rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol.
- Profiad o addysgu dysgwyr sy'n oedolion, yn enwedig yng nghyd-destun dysgu o bell;
- Profiad o fod yn rheolwr llinell ar bobl;
- Profiad o arweinyddiaeth effeithiol, gyda'r gallu i gyfleu gweledigaeth, strategaeth a datblygu eraill;
- Profiad o ymgysylltu â chyflogwyr yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal proffesiynol cysylltiedig;
- Ymrwymiad i barhau i ddatblygu a diweddaru gwybodaeth yn y maes perthnasol;
- Y gallu i addysgu a chefnogi myfyrwyr yn deg ac yn barchus, yn unol â pholisïau'r Brifysgol;
- Ymrwymiad i hyrwyddo gwasanaethau o safon i fyfyrwyr, yn enwedig drwy reolaeth academaidd a datblygiad staff priodol ar gyfer Tiwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer a gwerthuso darpariaeth ddysgu;
- Sgiliau rhyngbersonol, sefydliadol, gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i fynegi syniadau'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig;
- Y gallu i weithio'n effeithiol ar draws ffiniau sefydliadol a chydweithio ag eraill ar draws y sector;
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel aelod effeithiol o dîm;
- Gallu a pharodrwydd i deithio'n rheolaidd ac i weithio'n hyblyg gan gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau.
Dymunol:
- Gradd uwch a photensial i ddatblygu proffil ymchwil ac ysgolheictod;
- Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Profiad o ddysgu seiliedig ar waith;
- Hanes o weithgarwch ymchwil ac ysgolheigaidd sy'n gysylltiedig â'r proffesiynau nyrsio, iechyd, gofal cymdeithasol a/neu broffesiynau perthynol;
- Ymrwymiad i gydweithio ar draws ffiniau sefydliadol.
Cymorth gyda'ch cais
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.
Beth yw'r buddion i chi?
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.
Lleoliad Gweithio:Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i lleoli yn ôl y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.
Camau nesaf yn y broses Recriwtio
Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar.
Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthi’n gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
- CV
- Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod. Atodwch eich datganiad ategol i'r maes CV ar y ffurflen gais.
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.