Cyflog cystadleuol
Rydyn ni’n cynnig cyflogau cystadleuol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o fuddion eraill sy'n gwneud y Brifysgol Agored yn lle deniadol i weithio.
Mae ein holl rolau yn cael eu gwerthuso yn ôl fframwaith Dadansoddi Rolau Addysg Uwch (HERA) cyn iddyn nhw gael eu hysbysebu gan sicrhau bod gradd a band cyflog priodol yn cael ei neilltuo sy'n gwobrwyo'r rôl a'i chyfrifoldebau yn deg.
Lwfans gwyliau blynyddol
Mae pawb yn y Brifysgol Agored yn mwynhau gwyliau blynyddol hael – sy’n amrywio fesul rôl.
Rydyn ni’n cynnig 30 diwrnod o wyliau blynyddol i staff cymorth, a 33 diwrnod o wyliau i gydweithwyr academaidd, sy’n gysylltiedig â’r maes academaidd ac ymchwil. Mae hynny ar ben gwyliau banc a chyfnod y Nadolig.
Cofleidio cydbwysedd
Rydyn ni’n credu’n gryf ym manteision gweithio ystwyth, felly mae opsiynau i wneud cais i weithio mewn ffordd sy’n gweithio i chi ac i’r Brifysgol Agored.
I ni, y teulu sy’n dod gyntaf. Dyna pam ein bod yn cynnig Gwyliau sy’n Ystyriol o Deuluoedd – gan gynnwys Mamolaeth, Mabwysiadu ac Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Cynllun pensiwn
Mae’r Brifysgol Agored yn rhan o’r prif gynllun pensiwn ar gyfer sector addysg uwch y DU, Cynllun Blwydd-daliadau Prifysgolion (USS) ac yn gwneud cyfraniadau cyflogwr hael ochr yn ochr â chyfraniad gweithwyr.
Gwario ac arbed
Mwynhewch ostyngiadau bob dydd gyda Vivup Lifestyle Savings. Cymerwch fantais o ostyngiadau Clwb y Brifysgol Agored (gyda phrisiau rhatach ar dripiau i’r theatr, ciniawau a mwy). Gwnewch y mwyaf o’n cynllun Cynilo Agored, sy’n cynnig opsiynau aelodaeth Undeb Credyd i chi. Rhowch Wrth Ennill a gwnewch ddefnydd o'n menter elusennol sy’n effeithiol o ran treth.
Gofalu amdanoch chi
Ochr yn ochr â gofal iechyd preifat, gallwch optio i mewn i’n cynllun iechyd BHSF arian parod er mwyn hawlio’n ôl ar anghenion iechyd bob dydd - fel gofal deintyddol ac optegol.
Mwynhewch fuddion ein partneriaeth â Simplyhealth, sy’n rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o gynlluniau yswiriant iechyd. Mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn wasanaeth 24/7, rhad ac am ddim, sy’n cynnig cymorth a chefnogaeth i chi a’ch teulu mewn sawl maes, gan gynnwys profedigaeth, lles emosiynol a phryderon ariannol.
Hwb i’ch taith i’r gwaith
Defnyddiwch ein cynllun cerbydau trydan i gael mynediad heb flaendal i gar trydan am ffi fisol sefydlog.
Gyda'n Cynllun Beicio, gallwch brynu beic heb dalu’r swm llawn - dim ond ein talu'n ôl fis wrth fis (di-log).
Os ydych yn teithio ar drên neu diwb, rydyn ni hyd yn oed yn cynnig benthyciad tocyn tymor i gadw costau dyddiol i lawr.
Datblygwch gyda ni
Hepgor Ffioedd Staff yw’r cyfle i gydweithwyr yn y Brifysgol Agored astudio amrywiaeth o gyrsiau’r Brifysgol Agored ar bob lefel am ddim. Rydyn ni’n rhoi amser i Ddarlithwyr Cysylltiol astudio ac i ddatblygu. Mae ein Prentisiaethau yn helpu i roi ein pobl mewn sefyllfa dda ar gyfer y dyfodol, gan arwain y ffordd yn hyderus.
Waeth beth yw eich lefel neu lwybr, rydyn ni eisiau i chi gyrraedd eich potensial llawn - a chynnig pob math o gyfleoedd a llwybrau i’ch helpu i wneud hynny. Mae ein platfform Fy Nghanolfan Ddysgu yn cynnig mynediad i chi at ddeunyddiau, e-Ddysgu, cyrsiau a mwy. Os ydych chi'n un o'n Staff Academaidd Canolog neu Ranbarthol, gallwch fanteisio ar ein hopsiynau Absenoldeb Astudio.
Gofal plant
Mae gan feithrinfa The Acorn at Mulberry Bear ar ein campws yn Milton Keynes 52 o lefydd i blant staff chwarae a ffynnu.
Gall rhieni cymwys hefyd ymuno â ‘Chynllun Gofal Plant Di-dreth’ y Llywodraeth (TFC). I staff sy’n ystyried y cynllun Gofal Plant Di-dreth, ceir mwy o fanylion ar wefan CThEF, gan gynnwys y safle ’Dewisiadau Gofal Plant’ yn ogystal â chyfrifiannell ar-lein.