Mae Gwasanaethau Academaidd yn cynnig cymorth ac arweiniad strategol er mwyn sicrhau llwyddiant ein gwasanaeth i fyfyrwyr, gan gydweithio â chydweithwyr y Brifysgol, yn enwedig y rhai mewn unedau academaidd.
Uned Datblygu Busnes
Mae’r Uned Datblygu Busnes wedi ymrwymo i ddarparu atebion dysgu arloesol a phroffidiol, i fyfyrwyr, busnesau a phartneriaid yn y DU ac yn fyd-eang.
Swyddfa Datblygu
Diben y Swyddfa Datblygu yw codi incwm dyngarol a meithrin cymuned gysylltiedig o gyn-fyfyrwyr, gan gefnogi'r Brifysgol Agored i gyflawni ei chenhadaeth a'i hamcanion strategol.
Gwasanaethau Digidol
Daw Gwasanaethau Digidol â gwybodaeth ymarferol y gellir ymddiried ynddi am ddylunio, data a thechnoleg i gyflwyno dysgu gydol oes yn y Brifysgol Agored. Mae Gwasanaethau Digidol yn cynnal dros 250 o wasanaethau a systemau’r Brifysgol Agored y mae myfyrwyr a staff yn eu defnyddio bob dydd.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae’r tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn dîm arbenigol sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth eang o faterion cydraddoldeb ar draws y Brifysgol. Mae’r tîm EDI yn sicrhau bod y Brifysgol Agored yn bodloni gofynion cyfreithiol, yn sefydlu arferion da ac yn rhoi’r arbenigedd sydd ei angen i adeiladu cymuned wirioneddol amrywiol a chynhwysol.
Ystadau
Mae ystadau yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol i'r Brifysgol gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, rheoli prosiectau, iechyd a diogelwch, gwasanaethau post, cludiant, cynnal a chadw a rheoli tiroedd ac eiddo.
Gwasanaethau Cyllid a Busnes
Mae Gwasanaethau Cyllid a Busnes yn cynnig gwasanaethau cyfrifyddu, caffael a masnachol cyfreithiol i'r Brifysgol, gan helpu i wneud y defnydd gorau o adnoddau ac i gyflawni cyfrifoldebau statudol.
Technoleg Gwybodaeth
Mae Technoleg Gwybodaeth (TG) yn darparu systemau a gwasanaethau sy'n cefnogi cenhadaeth, myfyrwyr, cydweithwyr a phartneriaid y Brifysgol.
Gwasanaeth Archwilio Mewnol
Mae’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn darparu sicrwydd, dyluniad a gweithrediad trefniadau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth fewnol effeithiol, sy’n helpu’r Brifysgol i lwyddo.
Gwasanaethau Dysgwyr a Darganfod
Mae Gwasanaethau Dysgwyr a Darganfod yn cydweithio â chydweithwyr academaidd i gynllunio a chynhyrchu dysgu o bell i fyfyrwyr sydd o safon fyd-eang. Maen nhw hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n gwella'r profiad dysgu.
Gwasanaethau’r Llyfrgell
Mae Llyfrgell y Brifysgol Agored, sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn sail i genhadaeth y Brifysgol i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Mae Gwasanaethau’r Llyfrgell yn cysylltu cymuned y Brifysgol Agored gyfan â gwybodaeth o safon fyd-eang, technoleg ac arbenigedd gwobredig i hwyluso’r broses o greu gwybodaeth.
Marchnata a Chyfathrebu
Mae Marchnata a Chyfathrebu yn cynnig arbenigedd mewn ymgyrchoedd, ymgysylltu â staff, marchnata cynnyrch, profiad cwsmeriaid, cysylltiadau cyhoeddus, Rheoli Newid, mewnwelediadau digidol, strategaeth a brand.
Cyfryngau Agored a Dysgu Anffurfiol
Mae Cyfryngau Agored a Dysgu Anffurfiol yn y Brifysgol Agored wedi ymrwymo i ddarparu datrysiadau sy’n sicrhau mwy o fynediad at addysg o ansawdd uchel.
Prifysgol Agored Iwerddon
Mae’r Brifysgol Agored yn Iwerddon yn hyrwyddo cyfleoedd addysgol a chyfiawnder cymdeithasol drwy ddarparu addysg prifysgol o ansawdd uchel i bawb sy’n dymuno gwireddu eu huchelgais a chyflawni eu potensial.
Prifysgol Agored Gogledd Iwerddon
Y Brifysgol Agored yng Ngogledd Iwerddon yw’r unig brifysgol yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi ymrwymo i ddarparu dysgu o bell.
Prifysgol Agored yr Alban
Mae’r Brifysgol Agored yn yr Alban yn darparu dysgu o bell â chymorth i fwy na 19,500 o fyfyrwyr yn yr Alban.
Prifysgol Agored Cymru
Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw'r darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru – mae mwy na 16,000 o bobl o bob cymuned bron ar hyd a lled Cymru yn astudio gyda ni.
Gwasanaethau Pobl
Mae Gwasanaethau Pobl yn gweithio mewn partneriaeth â’r busnes i ddarparu arbenigedd a gwasanaethau recriwtio, cysylltiadau â gweithwyr, ymgysylltu â chydweithwyr, gwobrwyo a mewnwelediad a gwasanaethau i weithwyr.
Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesedd
Nod yr Uned Ymchwil, Menter ac Ysgolheictod yw hwyluso rhagoriaeth y Brifysgol mewn ymchwil, menter, ysgolheictod ac ymgysylltu allanol.
Dirprwy Is-ganghellor Myfyrwyr
Mae'r Uned Dirprwy Is-ganghellor Myfyrwyr yn gweithio gyda myfyrwyr, cyfadrannau ac unedau ar draws y Brifysgol, ynghyd â rhanddeiliaid allanol a chydweithwyr yn ein pedair gwlad, i gyflawni gwelliannau parhaus sydd o fudd i fyfyrwyr ar bob cam o'u taith gyda'r Brifysgol Agored.
Cyfnewid Gwybodaeth ac Ymchwil
Cyfnewid Gwybodaeth ac Ymchwil yn darparu amrywiaeth eang o gymorth a chyfeiriad strategol, gan greu amgylchedd ymchwil lle gall ein hymchwil a'n hymchwilwyr ffynnu.
Swyddfa Strategaeth
Mae strategaeth ein Prifysgol, 'Dysgu a Byw', yn llywio ein penderfyniadau a'n blaenoriaethau. Rôl y Swyddfa Strategaeth yw sicrhau bod gan y Brifysgol gyfeiriad strategol clir.
Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Mae Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau proffesiynol a chymorth arwain. Mae Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol hefyd yn datblygu a chyflawni blaenoriaethau, polisïau a gwasanaethau o fewn y sefydliad a’r sector.
Swyddfa'r Is-Ganghellor
Mae Swyddfa'r Is-Ganghellor yn galluogi'r Is-Ganghellor a'r Dirprwy Is-Ganghellor i gyflawni eu cyfrifoldebau i'r Brifysgol Agored mewn ffordd effeithiol, effeithlon a chadarnhaol.