Undeb Myfyrwyr y Brifysgol Agored
Pwrpas Undeb Myfyrwyr y Brifysgol Agored yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i holl fyfyrwyr y Brifysgol Agored, gan wneud yn siŵr bod y Brifysgol yn fwy na dim ond lle i ddysgu – ei bod hefyd yn gymuned fywiog ac amrywiol o fyfyrwyr.
Mae ein tîm o staff yn cefnogi ein rhwydwaith o wirfoddolwyr a chynrychiolwyr ym mhob cwr o’r byd. Rydym hefyd yn rhedeg y Gwasanaeth Cynrychioli Unigolion, yn cynnal Wythnosau Croeso a digwyddiadau eraill i fyfyrwyr, yn rhedeg siop Myfyrwyr y Brifysgol Agored, yn cefnogi ein grwpiau myfyrwyr – fel y Grŵp Myfyrwyr Anabl, Grŵp BAME a Pride y Brifysgol Agored, a llawer mwy!
Yn y pen draw, rydym yn ymdrechu i helpu myfyrwyr y Brifysgol Agored i gysylltu, cyfrannu a ffynnu.
Coleg Agored y Celfyddydau / Open College of Arts (OCA)
Wedi’i sefydlu yn 1987 gan Michael Young, un o sylfaenwyr y Brifysgol Agored, mae Coleg Agored y Celfyddydau (OCA) wedi’i wreiddio yn yr un ethos a’r gwerthoedd â’r Brifysgol Agored. Mae’r Brifysgol Agored wedi prynu Coleg Agored y Celfyddydau fel is-sefydliad sydd ym mherchnogaeth lwyr y Brifysgol Agored, endid cyfreithiol ar wahân ond sy'n gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, ac sy’n rhoi cyfle i ni ehangu galluoedd y Brifysgol Agored yn y celfyddydau ac ehangu’r arlwy, yn enwedig ym maes y celfyddydau gweledol, cynhwysol a graffeg.
Open College of Arts (OCA)

Y Brifysgol Agored yn Fyd-eang
Mae Open University Worldwide Ltd yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr y Brifysgol Agored o fewn yr Uned Datblygu Busnes, ac mae’n cyfrannu at fusnes craidd y Brifysgol Agored drwy gefnogi’r Brifysgol Agored i ddefnyddio ei harbenigedd a’i phrofiad fel arweinydd byd ym maes dysgu agored â chymorth a thrwy anelu at gynyddu'r elw ariannol i'r Brifysgol Agored oddi wrth ei gweithgareddau rhyngwladol a chorfforaethol.