Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol (FASS)
Mae Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn ymdrin â'r ystod lawn o brofiad dynol. Yn gynhenid rhyngddisgyblaethol ei dull, mae’r Gyfadran yn cynhyrchu ymchwil flaengar sy’n llywio ein haddysgu o safon fyd-eang ac yn ysbrydoli ein myfyrwyr, academyddion a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Cyfadran Busnes a'r Gyfraith (FBL)
Ein Hysgol Fusnes
Mae Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored yn darparu addysg fusnes a rheolaeth drawsnewidiol o ansawdd uchel. Dysgwch fwy >
Ein Hysgol Gyfraith:
Mae Ysgol y Gyfraith y Brifysgol Agored yn cynnig addysg gyfreithiol fyd-enwog ac arloesol. Dysgwch fwy >
Cyfadran Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)
Ein nod yw bod yn arweinwyr byd mewn addysgu ac ymchwil STEM cynhwysol, arloesol ac effeithiol. Mae ein cymuned ymchwil fywiog yn weithgar ar ffiniau gwybodaeth mewn sawl maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.
Cyfadran Llesiant, Addysg ac Astudiaethau Iaith (WELS)
Wedi'i threfnu fel tair Ysgol, mae'r Gyfadran yn gweithio ar draws ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwaith Ieuenctid, Gwaith Cymdeithasol, Ieithoedd ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, Nyrsio, a Chwaraeon a Ffitrwydd.
Mynediad, Agored ac Arloesedd Trawsgwricwlaidd
Mae mwyafrif y cwricwlwm sy'n eiddo i Fynediad, Agored ac Arloesedd Trawsgwricwlaidd (AOCcI) yn rhyngddisgyblaethol, yn amrywio o Lefel 0 (Mynediad) i israddedig (Agored) a hefyd ôl-raddedig (Agored) sy'n cefnogi tua un rhan o bump o boblogaeth myfyrwyr y Brifysgol.
Sefydliad Technoleg Addysg y Brifysgol Agored
Mae Sefydliad Technoleg Addysg y Brifysgol Agored yn arweinydd byd-eang sydd ag enw da o’r radd flaenaf am arloesi technoleg dyfeisgar ym maes addysg. Ers 1970, mae Sefydliad Technoleg Addysg y Brifysgol Agored wedi bod yn ganolog i genhadaeth y Brifysgol Agored, gan ddarparu dysgu â chymorth, dysgu agored a dysgu o bell drwy ragoriaeth mewn ymchwil, cwricwlwm arloesol a gwella ansawdd.
Rhagor o wybodaeth am y Sefydliad Technoleg Addysg >