Dweud wrthym amdanoch chi
Drwy ddweud wrthym amdanoch chi a’ch anghenion yn ystod y broses recriwtio, gallwn wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth i’ch cefnogi. Gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn ceisio gwneud eich profiad y gorau y gall fod a sicrhau bod ein polisïau cydraddoldeb yn effeithiol. Ni fyddwn yn datgelu eich statws i unrhyw un nad oes angen iddyn nhw wybod. Ac mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol.
Mae'r Brifysgol Agored yn croesawu ymgeiswyr sy'n nodi bod ganddynt anabledd neu gyflwr niwroamrywiol. Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch i’ch galluogi i fynychu’r cyfweliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’r Tîm recriwtio i drafod eich gofynion.
Rhowch wybod i ni os oes angen eich copi o'r Swydd Ddisgrifiad arnoch mewn fformat gwahanol i gwrdd â'ch anghenion. Mae gwybodaeth hygyrchedd ychwanegol i ymgeiswyr anabl ar gael o'r Tîm recriwtio.
Ein Cynllun Cydraddoldeb
Fel corff cyhoeddus, mae gennym sawl dyletswydd statudol. Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da rhwng grwpiau o bobl.
Mae Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi sylw dyledus i'r angen i hyrwyddo cyfle cyfartal a chysylltiadau da ar draws ystod o nodweddion.
Rydyn ni’n ymrwymo i gael trefniadau mewnol effeithiol ar waith i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r dyletswyddau statudol ac ar gyfer monitro ac adolygu ein cynnydd. Mae hwn yn gynllun sy'n eich diogelu chi, ein pobl.
Rhwydweithiau staff
Mae rhwydweithiau staff yn ein galluogi i fod yn fwy cydweithredol, yn fwy grymus, ac yn gynhwysol drwy gysylltu a chefnogi ein cydweithwyr. Maen nhw’n cynnig gofod diogel i unigolion rannu cyd-ddealltwriaeth, profiadau positif a negyddol ac i ddatblygu strategaethau mewn ymateb i'w profiad yn y gwaith. Rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant ym mhopeth a wnawn.