• Cymhwysedd a phrawf o breswyliad

    Rydyn ni’n ceisio gwneud y broses o ymgeisio am rolau ar draws y Brifysgol Agored mor syml â phosib. I ddechrau’r broses, mae’n allweddol ein bod yn sicrhau eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n croesawu pob ymgeisydd, waeth beth fo'u cenedligrwydd, ond mae angen i ni sicrhau bod gan bawb yr hawl gyfreithiol i weithio yn y DU. Mae hyn yn golygu sicrhau bod y llwybr Fisa rydych yn bwriadu ei ddefnyddio yn addas ar gyfer eich amgylchiadau ac, yn achos nawdd, bod y rôl ei hun yn un a fydd yn rhoi'r pwyntiau a’r cymhwystra angenrheidiol i chi yn unol â system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau'r DU.

Cael Fisa

Os ydych yn dod o dan reolaeth fewnfudo'r DU, bydd angen i chi gael fisa i weithio yn y DU. Drwy gael fisa priodol, byddwch yn cael hawl i weithio yn y DU am gyfnod penodedig. Drwy gael eich noddi gan gyflogwr yn y DU a chael caniatâd i aros yn y DU gan Fisâu a Mewnfudo y DU, cewch dawelwch meddwl yn ystod eich cyflogaeth gyda'r Brifysgol Agored - Gwiriwch a oes angen i chi gael fisa i weithio yn y DU >

Os bydd eich cais yn llwyddiannus a bod angen i chi gael fisa ar gyfer eich cyflogaeth gyda'r brifysgol, darperir cyfarwyddiadau llawn i chi ar gyfer eich cyflogaeth noddedig o dan lwybr y Gweithiwr Crefftus neu lwybr y Gweithiwr Dros Dro.

Bydd Tîm Cydymffurfiaeth Mewnfudo y Gwasanaethau Pobl yn darparu Tystysgrif Noddi a chymorth ar sut i wneud cais am fisa o dan lwybr y Gweithiwr Crefftus neu lwybr y Gweithiwr Dros Dro. Mae'r Brifysgol Agored yn dal statws Dibynadwy Iawn 'A' gyda Fisâu a Mewnfudo y DU felly ni fydd gofyn i chi ardystio'r gofyniad cynhaliaeth ar gyfer eich cais am fisa noddedig.

Prawf o breswyliad a'r hawl i weithio yn y DU neu Weriniaeth Iwerddon

Mae'r Brifysgol Agored yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan rai o bob cefndir a chenedligrwydd. Cyflawnir ein gwaith ledled y DU a Gweriniaeth Iwerddon, felly bydd angen i chi fod yn breswylydd yng Nghymru, yr Alban, Lloegr neu Weriniaeth Iwerddon er mwyn gweithio gyda ni.

Bydd lle gwaith contractiol gan bob cyflogai neu weithiwr a byddai disgwyl i'r cyflogai neu weithiwr deithio i'r lleoliad hwnnw i gwrdd ag anghenion busnes. Ni fyddai'r costau am deithio i'ch lle gwaith contractiol yn cael eu had-dalu. Felly caniateir ceisiadau gan ymgeiswyr o wledydd tramor ar yr amod bod yr ymgeisydd yn bwriadu adleoli. Bydd unrhyw gynnig o gyflogaeth yn cael ei wneud ar ôl cael prawf o breswyliad yn y DU neu Weriniaeth Iwerddon.

Os cynigir rôl i chi gyda'r brifysgol, gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU, yn rhan o'r broses sgrinio cyn cyflogi. Rhaid gwneud y gwiriad hwn cyn caniatáu i chi ddechrau'ch cyflogaeth gyda ni.

Mae tri opsiwn ar gael:

Opsiwn A – Gwiriad â llaw o'ch dogfennau gwreiddiol os ydych yn dal cenedligrwydd Prydeinig/Gwyddelig

Opsiwn B – Gwiriad ar-lein yn defnyddio darparwr gwasanaeth hunaniaeth os ydych yn dal cenedligrwydd Prydeinig/Gwyddelig

Opsiwn C – Gofynnir i chi ddarparu cod rhannu y Swyddfa Gartref ar gyfer gwiriad ar-lein os nad ydych yn wladolyn Prydeinig/Gwyddelig

Os ydych yn Ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig, gofynnir i chi ddod â dogfen wreiddiol sy'n darparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU, er enghraifft, pasbort (Opsiwn A).

Ar gyfer y rheini sy'n dal dogfen ffisegol y gellir ei gwirio â llaw yn unig, rhaid i hon fod yn ddogfen wreiddiol neu'n gyfuniad o ddogfennau gwreiddiol sydd ar restr o ddogfennau derbyniol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Gartref. Sylwer nad yw trwydded yrru y DU yn ddogfen ddilys ar gyfer gwiriad hawl i weithio. Gwneir copi o'r ddogfen wreiddiol a'i lofnodi a'i ddyddio i ddangos bod yr aelod staff wedi gwirio'r ddogfen.

Os oes gennych statws mewnfudo yn y DU ar sail statws fisa (sefydlog neu gyn-sefydlog) a gafwyd drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu os ydych wedi cael Caniatâd Amhenodol i Aros, gofynnir i chi ddarparu cod rhannu i ni fel y gallwn adolygu’ch statws hawl i weithio drwy borth ar-lein Fisâu a Mewnfudo y DU. Gallwch gael cod rhannu drwy fynd at dudalen we GOV.UK Prove your right to work to an employer: Overview - GOV.UK (www.gov.uk).