Datganiad hygyrchedd Safle Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored

Mae’r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i wneud ei wefannau a’i apiau symudol yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Safle Gyrfaoedd y Brifysgol Agored.

Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio ein gwefannau ac apiau symudol, ac mae hygyrchedd yn rhan hollbwysig o’n cenhadaeth. Ar ein hyb Hygyrchedd, fe welwch chi bopeth sydd ei angen arnoch chi i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hygyrchedd, boed yn fyfyriwr neu'n aelod o staff.

I addasu’r cynnwys i'ch anghenion neu'ch dewisiadau, dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau’r cyferbynnedd a ffontiau.
  • Newid maint testun hyd at 200% heb effeithio ar allu’r wefan i weithredu.
  • Chwyddo hyd at 400% heb golli gwybodaeth neu swyddogaethau.
  • Llywio’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Tabio i ddolenni ‘Neidio i’r cynnwys’ ar frig y dudalen i lamu dros wybodaeth ailadroddus i’r prif gynnwys.
  • Tabio drwy'r cynnwys; bydd y lleoliad presennol yn cael ei ddangos gan newid gweledol clir.
  • Rheoli'r chwaraewr cyfryngau a fewnblannwyd i chwarae deunyddiau sain a fideo.
  • Defnyddio darllenydd sgrin (e.e., Jaws, NVDA) i:
  •  wrando ar gynnwys tudalennau gwe a defnyddio unrhyw swyddogaethau ar y dudalen.
  •  restru’r penawdau a'r is-benawdau yn y dudalen ac yna neidio i'w lleoliad ar y dudalen.
  •  godi rhestr o ddolenni ystyrlon ar y dudalen.
  • Defnyddio trawsgrifiadau neu gapsiynau caeedig gyda'r rhan fwyaf o ddeunyddiau sain a fideo.
  • Lawrlwytho deunyddiau dysgu mewn fformatau amgen (e.e., dogfen Word, PDF, ePub,  Kindle eBook).
  • Os oes gennych anabledd print, rydym yn darparu SensusAccess i fyfyrwyr, sef gwasanaeth awtomataidd sy'n trosi ffeiliau o un fformat i'r llall, er enghraifft, PDF i destun, sain, Word neu Braille.
  • Mae AbilityNet hefyd yn rhoi cyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.2 o Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Gweithredu’r acordion yn anghywir:

Nid yw’r acordion, neu’r dewislenni ehangu/cwymplenni yn gweithredu'n gywir. Mae hyn yn atal defnyddwyr darllenwyr sgrin NVDA rhag defnyddio bysell frys i lywio i weddill y dudalen tra o fewn acordion. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Problemau wrth ymdrin â gwallau:

Wrth lenwi rhai ffurflenni, os bydd rhai o'r meysydd gofynnol yn cael eu gadael yn wag a bod y ffurflen yn cael ei chyflwyno, dangosir rhestr o wallau. Nid yw'r gwallau hyn yn gysylltiedig â'r meysydd y maent yn cyfeirio atynt. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin gysylltu gwallau â meysydd ffurf priodol. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 3.3.1 Adnabod Gwall (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Labeli grŵp amwys:

Nid yw'r labeli grŵp a ddefnyddir mewn rhai o'r ffurflenni yn fanwl ac nid ydynt yn rhoi arwydd clir o'r math o feysydd sydd yn y ffurflen. Pan fydd ffurflen yn hir, mae labeli grŵp manwl yn ei gwneud hi'n haws i ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr technoleg gynorthwyol eraill lenwi ffurflenni'n fwy effeithiol. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu gyfarwyddiadau (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Mae labeli blychau cyfun yn hirwyntog:

Mewn rhai ffurflenni, mae’r ymadrodd ‘more options for’ yn rhagflaenu label pob blwch cyfun. Nid yw hyn yn ychwanegu gwerth at y labeli, ac mae'n gwneud y labeli hyn yn hirwyntog ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu gyfarwyddiadau (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Ffurfiau hir sydd heb eu cyflwyno ar dudalennau lluosog:

Mae rhai ffurflenni’n hir ond nid ydynt wedi'u rhannu'n adrannau na'u cyflwyno ar dudalennau lluosog. Mae defnyddwyr â namau gwybyddol yn ei chael yn anodd prosesu llawer o wybodaeth pan gaiff ei chyflwyno ar un dudalen. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Nid yw ymddygiad y blwch cyfun yn safonol:

Mewn rhai blychau cyfun, wrth amlygu opsiwn a phwyso'r bysell tab, nid yw’r opsiwn a amlygwyd yn cael ei ddewis. Mae'n rhaid i berson hefyd wasgu'r fysell Enter er mwyn dewis yr opsiwn a amlygwyd. Mae hyn yn effeithio ar ddarllenwyr sgrin a’r rhai sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig. Mae hyn yn methu  WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 2.1.1 Bysellfwrdd (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Mae'r dudalen canlyniadau chwilio yn anhygyrch wrth ddefnyddio darllenydd sgrin NVDA os yw'r chwiliad yn dychwelyd 0 canlyniad:

Pan fydd defnyddiwr sy'n defnyddio darllenydd sgrin NVDA wrthi’n chwilio a'r chwiliad yn dychwelyd dim canlyniadau, daw maes y dudalen canlyniadau chwilio yn anhygyrch. O ganlyniad, ni all defnyddwyr darllenwyr sgrin NVDA ddefnyddio bysell frys i lywio neu i ryngweithio â'r dudalen canlyniadau chwilio. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Mae labeli anghyson ar y botwm Show/Hide wrth doglo cyfrinair:

Ar rai ffurflenni, wrth doglo cyfrinair, nid oes gan y botymau Show/Hide label a chyhoeddiad cyson a chlir sy'n cyfleu ei gyflwr presennol yn ddiamwys, gan achosi dryswch am statws dethol y botwm. Mae hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025

Problem blwch ticio:

Wrth wneud cais am swydd, ym mhroffil yr ymgeisydd, nid yw testun y datganiad wedi'i gysylltu'n rhaglennol â'r blwch ticio 'Rwy'n cytuno i'r datganiad uchod'. O ganlyniad, cyflwynir y blwch ticio i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin, ond heb y datganiad y maent yn cytuno iddo. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Problem dewiswr dyddiad:

Nid yw'r dewiswr dyddiad yn hygyrch mewn rhai ffurflenni, ac nid yw'r maes dewis dyddiad yn gysylltiedig â'r label cywir. O ganlyniad, nid yw defnyddwyr darllenwyr sgrin yn gallu defnyddio'r dewiswr dyddiad. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu gyfarwyddiadau (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Labeli grŵp ar goll:

Nid yw meysydd mewnbwn cysylltiedig mewn rhai ffurflenni yn cael eu grwpio gyda'i gilydd drwy ddefnyddio label grŵp. Mae'r diffyg grwpio priodol hwn yn ei gwneud yn heriol i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin ddeall cyd-destun mewnbynnau ffurflen unigol. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Problem moddol cwcis:

Nid yw'r botymau toglo yn y modd Rheoli Cwcis sy'n galluogi defnyddwyr i ddewis neu ddad-ddewis cwcis dewisol yn hygyrch i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin NVDA. Mae hyn yn methu WCAG 2.2 Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A). Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Mehefin 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 26 Mehefin 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 21 Mehefin 2024. Cynhaliwyd y profion gan Dîm Gwerthuso Hygyrchedd a Defnyddioldeb y Brifysgol Agored.

Roedd y sampl a ddefnyddiwyd ar gyfer y profion yn cynnwys sgriniau allweddol a chynnwys enghreifftiol o’r wefan gyrfaoedd. Cynhaliwyd profion â llaw ar gynnwys y sampl, ac roedd hyn yn cynnwys adolygiad drwy ddefnyddio darllenydd sgrin NVDA.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os gwelwch nad yw adran benodol o’n gwefan yn hygyrch ac na allwch gael mynediad at y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, defnyddiwch Ffurflen Adborth Hygyrchedd y BrifysgoL Agored i ofyn am gymorth a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Bydd angen i chi roi eich manylion cyswllt a'ch Dynodydd Personol os ydych yn fyfyriwr fel y gallwn gysylltu â chi. Dylech ddisgwyl clywed wrthym o fewn 5 diwrnod gwaith.

Mae’r Brifysgol Agored yn brofiadol iawn wrth ddiwallu anghenion hygyrchedd ein myfyrwyr. Mewn nifer o achosion, gallwn ddarparu modiwlau a deunyddiau cymorth astudio eraill mewn fformatau amgen i fyfyrwyr sy’n nodi bod angen hyn wrth gwblhau Ffurflen Cymorth Anabledd.

Yn ogystal, mae rhai deunyddiau modiwlau ar gael mewn fformatau gwahanol a gellir eu lawrlwytho o wefannau’r modiwlau. Gall myfyrwyr gysylltu â'u Tîm Cymorth i Fyfyrwyr am gyngor.

Os ydych yn fyfyriwr, neu’n rhywun sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r Brifysgol o’r blaen, a bod gennych gŵyn am hygyrchedd ein gwefannau, dylech godi cwyn drwy’r broses gwynion ac apeliadau

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os ydych yn y DU, ac nad ydych yn hapus gyda sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo ar Gydraddoldeb (EASS).