• Canllawiau ar sut i wneud cais

    Rydyn ni wrth ein bodd eich bod yn ystyried gyrfa gyda ni! O'r rheolwyr cyflogi y byddwch chi'n cwrdd â nhw i'r tîm Adnoddau ymroddedig a fydd yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd, rydyn ni yma i'ch helpu i deimlo'n barod ar gyfer pob cam o'r broses. Rydyn ni hefyd wedi creu rhai canllawiau fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl, pryd i'w ddisgwyl a sut i wneud y gorau o'ch cais gyda ni.

Beth sydd angen i chi ei wybod

Mae gwneud cais am eich rôl nesaf yn gallu achosi dryswch, ond gobeithio y gallwn ei wneud yn haws.

  • O fewn yr hysbyseb swydd, yr unig beth sydd angen ei wneud yw pwyso 'ymgeisio'.
  • Wedyn dangosir i chi sut yn union i ddechrau ar eich taith gyda ni.
  • Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ac atodi'ch CV. Ar gyfer rhai rolau, gallem ofyn am fwy o wybodaeth, er enghraifft, datganiad ategol neu dystiolaeth o waith ymchwil blaenorol.

Ar gyfer ceisiadau i Gymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored, Coleg Agored y Celfyddydau neu OU Worldwide, bydd y canllawiau'n wahanol.

I siarad â rhywun yn y tîm Recriwtio, cysylltwch â Careers.open@ac.uk.

Eich CV

Yn y CV rydych yn ei ddarparu yn rhan o'ch cais, dylech roi gwybodaeth amdanoch chi, eich hanes cyflogaeth, addysg a sgiliau. Dylech gynnwys gwybodaeth fel y canlynol:

  • Cyrhaeddiad mewn addysg uwchradd neu addysg uwch a graddau'ch cymwysterau
  • Hyfforddiant technegol, proffesiynol neu alwedigaethol
  • Hanes cyflogaeth
  • Manylion cyhoeddiadau perthnasol (ar gyfer swyddi academaidd yn unig)

Tynnwch unrhyw wybodaeth cyfle cyfartal fel oed, dyddiad geni, rhywedd, rhyw, statws priodasol, ethnigrwydd neu grefydd. Nid yw'r wybodaeth hon yn berthnasol i'ch cais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch rhannu'ch CV, yn rhan o'r broses, cysylltwch â Careers@open.ac.uk.

Datganiad ategol

Os byddwn yn gofyn i chi ysgrifennu datganiad ategol, dylech ddweud wrthym amdanoch chi, eich profiad, sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a pham mae'r rôl hon yn iawn i chi. Defnyddiwch dystiolaeth i gefnogi'r hyn rydych chi'n ei ddweud a, chofiwch, byddwch chi'ch hun. Gallwch hefyd ddweud wrthym am eich cymhwysedd ar gyfer y rôl, datgelu unrhyw wybodaeth ddefnyddiol a mwy. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am eich datganiad ategol, cysylltwch â Careers@open.ac.uk.

Addasiadau Rhesymol

Byddwn yn falch o drafod y cymorth a'r addasiadau y gallwn eu darparu i chi yn ystod y broses recriwtio i sicrhau eich bod yn cael cyfle i ddangos eich sgiliau, talentau a galluoedd. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn eich cynorthwyo yn Careers@open.ac.uk.

Os cynigir swydd i chi, gallwch hefyd drafod addasiadau sy'n digwydd yn eich rôl cyn eich dyddiad dechrau.

Cael cyfweliad gyda ni

Rydym yn parhau i weithredu drwy ddull hybrid yn y Brifysgol Agored, felly mae nifer o'n cyfweliadau yn rhai rhithwir. Rydym yn defnyddio Microsoft Teams ar gyfer ein proses cyf-weld rithwir.

Yn ansicr am y ffordd i ddefnyddio Microsoft Teams ar gyfer galwadau rhithwir? Darperir gwybodaeth cyn cynnal cyfweliad. Cliciwch yma i ddysgu rhagor am Microsoft Teams >

Yn ychwanegol i gyfweliadau rhithwir, byddwn weithiau'n gwahodd ymgeiswyr i gael cyfweliad gyda ni ar y safle, yn un o'n swyddfeydd (yn ôl lleoliad y rôl). Ceisiwn gadarnhau lleoliad eich cyfweliad cyn gynted â phosibl yn ystod y broses.

Diogelu Data

Mae Hysbysiad Preifatrwydd ein Staff, Gweithwyr ac Ymgeiswyr yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi am ba ddata rydyn ni’n ei gasglu a sut rydyn ni’n ei ddefnyddio. Darllenwch fwy am Breifatrwydd yn y Brifysgol Agored >