• Sgrinio Cyn Cyflogi

    Pan fydd ymgeisydd yn llwyddo i gael cynnig o swydd yn y brifysgol, gofynnir i'r ymgeisydd gwblhau gwiriadau sgrinio cyn cyflogi yn rhan o'r broses.

    Bydd cynigion o gyflogaeth yn amodol ar gwblhau gwiriadau sgrinio cyn cyflogi yn llwyddiannus. Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu ofyn unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n Tîm Recriwtio yn Careers@open.ac.uk.

Geirda ar gyfer Cyflogaeth:

Rolau anacademaidd yn is na gradd uwch:

  • Byddwn yn ceisio cael geirda ar gyfer cyflogaeth ar gyfer yr holl swyddi rydych wedi'u dal o fewn y 3 blynedd diwethaf.

Rolau anacademaidd ar radd uwch neu lefel uwch na hynny:

  • Byddwn yn ceisio cael geirda ar gyfer cyflogaeth ar gyfer yr holl swyddi rydych wedi'u dal o fewn y 5 mlynedd diwethaf.

Rolau academaidd:

  • Byddwn yn ceisio cael geirda ar gyfer cyflogaeth ar gyfer yr holl swyddi rydych wedi'u dal o fewn y 3 blynedd diwethaf. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gofyn am ddarparu o leiaf 1 geirda academaidd.

Rolau athro:

  • Byddwn yn ceisio cael geirda ar gyfer cyflogaeth ar gyfer yr holl swyddi rydych wedi'u dal o fewn y 5 mlynedd diwethaf. Yn ogystal â hyn, byddwn yn gofyn am ddarparu o leiaf 1 geirda academaidd.

Rwyf wedi cael seibiant cyflogaeth neu nid oes gennyf hanes cyflogaeth ar gyfer y cyfnod gofynnol:

  • Os ydych yn gadael ysgol neu brifysgol, gallwch ddarparu manylion eich Pennaeth Ysgol/Prifysgol, gan amlinellu'r cyfnod y mae hyn yn ei gynnwys.
  • Ar gyfer pob amgylchiad arall, rhowch wybod i ni a byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ffordd arall i gadarnhau a chael tystiolaeth o'ch gweithgarwch.

Holiadur iechyd:

  • Byddwn yn gofyn i chi nodi a oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd rydych yn dymuno eu datgan neu a oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol i'ch cynorthwyo yn eich rôl newydd.

Os byddwch yn gwneud hyn, byddwn yn eich atgyfeirio i'n partner rheoli iechyd Medigold a fydd yn gweithio gyda chi i ddeall eich cyflyrau iechyd/addasiadau rhesymol. Bydd ei argymhellion yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn gallu darparu’r cymorth priodol a’r addasiadau rhesymol sydd eu hangen, fel y gallwch ddod atom i weithio yn ddibryder a chanolbwyntio ar lwyddo yn eich rôl newydd.

Ar gyfer rhai swyddi, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael cliriad boddhaol gan ein tîm iechyd galwedigaethol i sicrhau eich bod yn ffit i gyflawni’r rôl. Bydd hyn yn ofynnol yn aml lle mae rolau’n cynnwys dyletswyddau penodol a fyddai’n galw am asesiad meddygol. Lle mae hyn yn angenrheidiol, bydd wedi’i nodi’n glir yn yr hysbyseb swydd.

Hawl i Weithio:

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth bod ganddynt Hawl i Weithio yn y Deyrnas Unedig. I gael mwy o wybodaeth am hyn, gweler y dudalen Hawl i Weithio yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Gall rhai swyddi fod yn gymwys ar gyfer noddi fisâu. Lle mae hyn yn gymwys, byddwn yn eich cynorthwyo i gael fisa ond bydd angen cael tystiolaeth bod y fisa wedi’i ddyroddi a’i weithredu’n gywir cyn y gallwn ddechrau’ch cyflogaeth.

Datgelu euogfarnau troseddol

Nid ydym yn gadael i’r gorffennol sefyll yn ffordd llwyddiant yn y dyfodol ac ni ddylech chi chwaith. Rydym yn barod i dderbyn ceisiadau gan bawb, beth bynnag fo’ch cefndir neu’ch hanes. Os cewch gynnig rôl yn y Brifysgol Agored, byddwn yn gofyn i chi roi gwybod i ni am unrhyw euogfarnau sydd heb eu disbyddu neu rybuddiadau amodol rydych wedi’u cael, yn ôl y diffiniad yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

Yn ogystal â hynny, mae rhai rolau lle byddwn yn ofyn i chi ddatgan euogfarnau sydd wedi’u disbyddu, cyhuddiadau rydych yn eu hwynebu, ymchwiliadau presennol, gorchmynion rhwymo, rhybuddion neu geryddon. Gofynnir i chi ddarllen y disgrifiad swydd yn ofalus cyn gwneud cais, er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r gofynion sgrinio ar gyfer y rôl. Mae canllawiau ar gael yma ar bennu a yw euogfarn wedi’i disbyddu neu beidio - Gwiriwch a oes angen i chi ddweud wrth rywun am eich cofnod troseddol: Gwiriwch a yw eich euogfarn neu’ch rhybuddiad wedi darfod - GOV.UK (www.gov.uk)

Gwiriadau Cofnodion Troseddol

Ar gyfer rhai rolau yn y Brifysgol Agored, bydd angen i chi ymgymryd â gwiriad cofnodion troseddol.

Mae gwiriadau cofnodion troseddol yn helpu cyflogwyr i adnabod ymgeiswyr a all fod yn anaddas ar gyfer rhai mathau o waith, er enghraifft, gwaith sy’n dod â chi i gysylltiad â phlant neu grwpiau eraill sy’n agored i niwed. Maent hefyd yn cadw rhestrau o’r unigolion hynny sydd wedi’u gwahardd am eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed. Byddwn yn cael gwiriadau ar lefel Sylfaenol a Manwl, a bydd lefel y gwiriad sydd ei angen yn cael ei phenderfynu ar gyfer pob rôl.

Os ydych yn preswylio yng Nghymru neu yn Lloegr, byddai gwiriad cofnodion troseddol yn cael ei gwblhau drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael yma.

Os ydych yn preswylio yn yr Alban, byddai gwiriad cofnodion troseddol yn cael ei gwblhau gan Disclosure Scotland. Mae rhagor o wybodaeth am Disclosure Scotland ar gael yma

Os ydych yn preswylio yng Ngogledd Iwerddon, byddai gwiriad cofnodion troseddol yn cael ei gwblhau drwy AccessNI. Mae rhagor o wybodaeth am AccessNI ar gael yma.

Os ydych yn preswylio yng Ngweriniaeth Iwerddon, byddem yn gofyn i chi gwblhau Hunanddatganiad. Bydd y wybodaeth a ddarparwch yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac yn cael ei hystyried mewn perthynas â’r swydd rydych yn gwneud cais amdani yn unig.

Mae gennyf gofnod troseddol. A fydd hyn yn fy atal rhag cael swydd yn y Brifysgol Agored?

Er mwyn asesu a yw’ch cofnod troseddol yn berthnasol i’r rôl sydd wedi’i chynnig i chi, bydd yn cael ei asesu gan grŵp bach, caeedig o unigolion yn y brifysgol. Byddant yn ystyried y tasgau y byddai disgwyl i chi ymgymryd â nhw a’r amgylchiadau lle bydd y gwaith yn cael ei gyflawni ac a ddylid ystyried yr euogfarn droseddol. Os yw’n gymwys, ceir trafodaeth uniongyrchol â chi, i ganiatáu i chi rannu unrhyw wybodaeth berthnasol â ni ar gyfer yr adolygiad hwn. Mae’n bwysig nodi na fydd gwybodaeth am eich cofnod troseddol yn cael ei rhannu â’ch rheolwr llinell neu gydweithwyr ac mai dim ond mewn perthynas â’r swydd rydych wedi gwneud cais amdani neu sydd wedi’i chynnig i chi y bydd yn cael ei hystyried. Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei dal yn ddiogel ac yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.