• Bod yn Ddarlithydd Cysylltiol gyda’r Brifysgol Agored

    Y Brifysgol Agored, a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol ar 23 Ebrill 1969, yw’r brifysgol flaenllaw ar gyfer ymchwil hyblyg, arloesol a blaengar yn y Deyrnas Unedig ac mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd. Mewn sefyllfa unigryw i ddeall anghenion myfyrwyr rhan-amser, gan gyfuno dysgu tra’n ennill, mae ein cymwysterau dysgu o bell arloesol, sydd wedi ennill gwobrau, wedi gweld dros 2 filiwn o fyfyrwyr yn derbyn addysg na fyddai ar gael iddyn nhw fel arall mewn prifysgolion ar gampws.

    Mwy o wybodaeth am recriwtio Darlithwyr Cysylltiol >

Y rôl

Mae ein myfyrwyr yn astudio’n hyblyg gyda’r arbenigwyr mewn dysgu o bell. Bydd ganddyn nhw diwtor, a mynediad at sesiynau tiwtorial bywiog ar-lein a fforymau i fyfyrwyr a'r holl gymorth y bydd ei angen arnyn nhw i lwyddo.

Fel darlithydd cysylltiol, ymhlith pethau eraill, gallwch ddisgwyl darparu cymorth academaidd i grŵp amrywiol o fyfyrwyr, gan gynnwys asesu gwaith myfyrwyr, rhoi adborth a chefnogi wrth baratoi ar gyfer arholiadau.

Yn ogystal, mae'n debyg y byddwch yn helpu i ddatblygu sgiliau myfyrwyr, i fod yn bwynt cyswllt i fyfyrwyr ac i fentora cymheiriaid. Efallai y byddwch hefyd yn dysgu mewn ysgolion preswyl.

Manyleb Person Cyffredinol ar gyfer Darlithydd Cysylltiol (fersiwn Saesneg)>

Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol (FASS)

Mae Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn ymdrin â'r ystod lawn o brofiad dynol. Yn gynhenid rhyngddisgyblaethol ei dull, mae’r Gyfadran yn cynhyrchu ymchwil flaengar sy’n llywio ein haddysgu o safon fyd-eang ac yn ysbrydoli ein myfyrwyr, academyddion a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Archwiliwch rolau darlithwyr Cyswllt yn Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol >

Cyfadran Busnes a'r Gyfraith (FBL)

Mae Ysgol y Gyfraith yn cynnig addysg gyfreithiol arloesol sy’n adnabyddus ledled y byd. Mae ein Hysgol Fusnes yn cynnig addysg fusnes a rheolaeth drawsnewidiol o ansawdd uchel.

Archwiliwch rolau darlithwyr Cyswllt yn Cyfadran Busnes a'r Gyfraith >

Cyfadran Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)

Ein nod yw bod yn arweinwyr byd mewn addysgu ac ymchwil STEM cynhwysol, arloesol ac effeithiol. Mae ein cymuned ymchwil fywiog yn weithgar ar ffiniau gwybodaeth mewn sawl maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.

Archwiliwch rolau darlithwyr Cyswllt yn STEM >

Cyfadran Llesiant, Addysg ac Astudiaethau Iaith (WELS)

Wedi'i threfnu fel tair Ysgol, mae'r Gyfadran yn gweithio ar draws ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gwaith Ieuenctid, Gwaith Cymdeithasol, Ieithoedd ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, Nyrsio, a Chwaraeon a Ffitrwydd.

Archwiliwch rolau darlithwyr Cyswllt yn Cyfadran Llesiant, Addysg ac Astudiaethau Iaith (WELS) >

 

Mynediad, Agored ac Arloesedd Trawsgwricwlaidd

Mae mwyafrif y cwricwlwm sy'n eiddo i Fynediad, Agored ac Arloesedd Trawsgwricwlaidd (AOCcI) yn rhyngddisgyblaethol, yn amrywio o Lefel 0 (Mynediad) i israddedig (Agored) a hefyd ôl-raddedig (Agored) sy'n cefnogi tua un rhan o bump o boblogaeth myfyrwyr y Brifysgol.

Archwiliwch rolau darlithwyr Cyswllt yn AOCcI >