Eisoes yn cael eich cyflogi gan y Brifysgol Agored neu OUW?

Ydych chi'n weithiwr presennol sy'n chwilio am rôl newydd? Os felly, mae’r Brifysgol Agored wedi lansio gwefan gyrfaoedd fewnol i ddod ag adnoddau i chi a all eich helpu i fod yn llwyddiannus yn eich swydd bresennol, neu ddod o hyd i swydd newydd yma yn y Brifysgol Agored.

Chwilio am rolau Darlithydd Cysylltiol? - Defnyddiwch ein hafan Darlithwyr Cysylltiol i ddod o hyd i rolau Darlithwyr Cysylltiol.

Chwilio am rolau ysgoloriaethau ymchwil PhD? - Defnyddiwch ein hafan ysgoloriaethau ymchwil PhD i weld yr holl gyfleoedd sydd ar gael.

Byddwch yn rhan o’r rheswm pam mae mwy o bobl yn cyflawni eu potensial ac yn gwella cymdeithas

Ynglŷn â ni

Fel prifysgol fwyaf Ewrop, mae’r Brifysgol Agored yn helpu dros 200,000 o bobl i gael addysg sy'n newid bywydau, bob blwyddyn.

Mae’r Brifysgol Agored yn arweinydd byd-eang ym maes addysg uwch. Ein cenhadaeth yw gwneud dysgu yn hygyrch i bawb, a gyda’n gilydd, rydyn ni eisoes wedi helpu dros 2 filiwn o fyfyrwyr i wireddu eu dyheadau.

Yn 1969 fe wnaeth y broses o greu’r Brifysgol Agored a’i huchelgais newid y byd, gan roi'r pŵer i ddysgu i unrhyw un, yn unrhyw le. Wedi’i chydnabod yn fyd-eang, mae’r Brifysgol Agored wedi arloesi ym maes dysgu agored a dysgu o bell ers dros 50 mlynedd, gan ddarparu addysgu eithriadol, yn seiliedig ar ymchwil sydd gyda’r gorau’n y byd, a chymorth gwych i'w myfyrwyr a'i staff academaidd.

Mae’r ysbryd arloesol a’r ethos agored hwn yn dal i lywio popeth a wnawn heddiw.

I'n myfyrwyr, ein gweithwyr, a thrwy ein hymchwil, rydyn ni’n cynrychioli byd lle mae posibiliadau'n ddiddiwedd a'r dyfodol yn agored.

Dysgwch fwy am genhadaeth, strategaeth, rheolaeth a llywodraethiant y Brifysgol Agored.

Rydym yn ymroddedig i greu a rhannu gwybodaeth a dysg er mwyn gwireddu cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Fel addysgwr rydym yn gosod cynaliadwyedd wrth galon ein haddysgu, ymchwil, a chyfnewid gwybodaeth, ac fel busnes rydym yn hyrwyddo arfer gorau ar draws pedair gwlad y DU.

Mae ein hymchwil yn sail i'r addysgu a ddarparwn ac yn llywio'r adnoddau addysgol agored rhad ac am ddim o ansawdd uchel a ddarparwn i ddysgwyr ledled y byd.