Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).
Y Rôl
Mae hon yn rôl arbenigol mewn tîm o Gynghorwyr Addysgol sydd wedi eu cymhwyso'n broffesiynol. Prif bwrpas y rôl yw cefnogi myfyrwyr yng Nghymru i gyflawni eu nodau addysgol, gan weithio ar draws amrywiaeth o sianeli cyswllt.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at y broses o ddylunio a chyflwyno hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i staff y brifysgol, gan ganolbwyntio ar y timau Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr (SRS). Bydd hyn yn cynnwys cefnogi arfer cyngor ac arwain cyson, o ansawdd uchel drwy roi egwyddorion Matrics IAG ar waith a chyfrannu at y broses o wneud gwelliannau parhaus i wasanaethau yng Nghymru.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys datblygu a chynnal gwybodaeth arbenigol o gwricwlwm y Brifysgol Agored i gefnogi myfyrwyr yn effeithiol ac i lywio gwelliannau i brofiad digidol myfyrwyr ar lwyfannau'r Brifysgol Agored.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Yn unol â pholisïau a gofynion y Brifysgol, darparu arweiniad a chymorth addysgol diduedd, teg, cyfrinachol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, i alluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus.
- Gweithredu fel pwynt uwchgyfeirio ar gyfer achosion myfyrwyr cymhleth neu risg uchel lle mae angen arweiniad, ac arfer barn broffesiynol i uwchgyfeirio pryderon diogelu a lles i wasanaethau arbenigol fel sy'n briodol.
- Gweithredu fel arbenigwr pwnc a model rôl mewn perthynas â pholisïau a phrosesau sy'n ymwneud â myfyrwyr, gan gefnogi datblygiad staff eraill, a gweithredu fel pwynt cyfeirio pan fo angen.
- Cofnodi a chynnal achosion o ryngweithio rhwng myfyrwyr ac ymholwyr yn gywir gan ddefnyddio systemau'r Brifysgol, yn unol ag arfer gorau sefydledig.
- Cyfrannu at y broses o ddatblygu gweithrediadau Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gyfraddau cadw, datblygiad a boddhad myfyrwyr.
- Dylunio, datblygu a darparu hyfforddiant i staff sy'n ymwneud â myfyrwyr ar arfer cyngor ac arwain, gan gynnwys sgiliau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad, prosesau, polisïau a gweithdrefnau cymorth myfyrwyr.
- Dylunio, datblygu a mireinio gwybodaeth, deunyddiau a systemau ar-lein ac ysgrifenedig er mwyn diwallu anghenion addysgol a gweithredol sy'n esblygu.
- Cynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol, gan fabwysiadu arferion a gweithdrefnau busnes sy'n esblygu i wella perfformiad personol.
- Efallai y bydd angen i ddeiliad y rôl fynychu cyfarfodydd/digwyddiadau yn lleoliadau eraill Y Brifysgol Agored yn achlysurol at ddibenion busnes, hyfforddiant a gwerthuso.
Amdanoch Chi
Meini prawf hanfodol:
- Profiad sylweddol o roi cyngor ac arweiniad i grwpiau amrywiol o fyfyrwyr mewn addysg i oedolion, addysg bellach neu addysg uwch.
- Dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar lwyddiant myfyrwyr yng nghyd-destun dysgu rhan-amser a dysgu o bell.
- Cyngor ac arfer arwain amlwg sy'n cefnogi myfyrwyr i fod yn annibynnol ac i wneud penderfyniadau gwybodus gan arwain at ganlyniadau moesegol, diduedd.
- Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan gynnwys y gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth yn glir i gynulleidfaoedd amrywiol.
- Lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol yn cynnwys sgiliau cysylltu, rhwydweithio, cyd-drafod a gweithio mewn tîm yn effeithiol.
- Profiad o ddylunio, darparu a gwerthuso hyfforddiant i amrywiaeth eang o staff.
- Cymhwysedd yn defnyddio systemau a llwyfannau digidol i roi arweiniad yn effeithiol.
- Sgiliau cynllunio a threfnu cryf, â'r gallu i weithio'n annibynnol a rheoli llwyth gwaith amrywiol a heriol.
- Profiad o gefnogi achosion myfyrwyr cymhleth neu sensitif, gan gynnwys y gallu i arfer barn broffesiynol ac uwchgyfeirio pryderon diogelu neu les yn briodol.
Meini prawf dymunol:
- NVQ Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth neu barodrwydd i weithio tuag at gymhwyster proffesiynol os nad oes gennych y cymhwyster eisoes.
- Cymhwyster proffesiynol perthnasol a/neu dystiolaeth o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ym maes Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad.
- Y gallu i gyfathrebu yn rhugl ac yn effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Ymwybyddiaeth o'r amgylchedd polisi allanol a sut y gall blaenoriaethau'r llywodraeth effeithio ar y Brifysgol.
Cymorth gyda'ch cais
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.
Beth yw'r buddion i chi?
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.
Lleoliad Gweithio:Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i lleoli yn ôl y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl y bydd hyn ddeuddydd yr wythnos. Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.
Camau nesaf yn y broses Recriwtio
Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar.
Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
- CV
- Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod. Atodwch eich datganiad ategol i'r maes CV ar y ffurflen gais.
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.