Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).
Y Rôl
Mae dros 16,000 o fyfyrwyr o gymunedau ledled Cymru yn astudio gyda’r Brifysgol Agored ar hyn o bryd, ac mae mwy na dwy ran o dair ohonynt mewn cyflogaeth wrth astudio. Mae’r Brifysgol Agored yn gweithio gyda busnesau, elusennau, undebau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i helpu i ddatblygu eu staff, ac i annog mwy o bobl i ddysgu gydol oes, waeth beth fo’u cefndir. Mae gan y Brifysgol fyfyrwyr ym mhob etholaeth yng Nghymru.
Mae gennym ddwy cyfle cyffrous newydd i weithwyr gwasanaeth cwsmeriaid ymuno â’r tîm rheng flaen yn ein Canolfan Gyswllt Recriwtio a Chymorth Myfyrwyr. Mae hon yn rôl brysur ac amrywiol, lle byddwch yn helpu ein myfyrwyr – a’r rhai sy’n ystyried astudio gyda ni – i wneud penderfyniadau am eu dysgu.
Mae ein Cynghorwyr Myfyrwyr yn bwynt cyswllt cyntaf i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr sy’n chwilio am wybodaeth am astudio gyda’r Brifysgol Agored. Mae’r tîm yn cefnogi myfyrwyr drwy sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen i wneud y dewisiadau astudio cywir iddynt, ac i gofrestru a thalu drwy’r dull o’u dewis. Mae’r tîm yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i gefnogi myfyrwyr ac ymholwyr.
Mae’r rôl yn cynnwys llawer o waith ffôn, galwadau mewnol ac allanol, i ddarparu cymorth i fyfyrwyr drwy eu taith astudio, yn ogystal ag e-byst, llythyrau, sgwrs we a dulliau eraill fel bo’n angenrheidiol. Bydd angen i chi fod yn hyderus wrth weithio gyda sawl system, gwybodaeth a chronfa ddata i gynnal manylion myfyrwyr ac ymholwyr. Byddwch yn sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhoi i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddarparu cymorth. Rydym yn cynnig gwasanaeth cymorth dwyieithog llawn i ymholwyr a myfyrwyr fel y gallant gyfathrebu â ni yn eu hiaith ddewisol. Mae’r cyfleoedd hyn ar gyfer gweithwyr gwasanaeth cwsmeriaid sy’n hyderus yn eu gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg drwy bob sianel.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl gan Gynghorwyr profiadol presennol gan ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel, ac yna cymorth, hyfforddiant a datblygiad rheolaidd gan eich Rheolwr Tîm a chyd-aelodau profiadol i adeiladu eich hyder a’ch gwybodaeth yn y rôl.
Rydym yn sefydliad arloesol ac yn gweithio i ddatblygu’r cymorth a gynigiwn i’n cydweithwyr a dysgwyr Cymraeg. Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch yn dysgu am y gwasanaeth dwyieithog a gynigiwn a sut y byddwch yn cymryd rhan yn cefnogi ein dysgwyr sy’n dewis cyfathrebu â ni yn Gymraeg. Mae rhwydwaith o gydweithwyr Cymraeg eu hiaith o fewn y Brifysgol, a byddwch yn cael eich cefnogi ac annog i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich gwaith o ddydd i ddydd.
Mae’r rôl hon yn llawn amser, 37 awr yr wythnos, a bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus weithio patrwm hyblyg rhwng yr oriau agor presennol sef 8.00am – 6.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Sylwch: bydd cyfyngiadau ar wyliau yn ystod y cyfnod hyfforddi cychwynnol, Awst, Medi, Hydref a Ionawr gan mai dyma’r cyfnod gweithredol prysuraf.
Cyfrifoldebau Allweddol
Darparwyr Gwasanaeth Aml-sianel
- Darparu gwybodaeth i ymholwyr a myfyrwyr gan ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg yn dibynnu ar ddewis y dysgwr, gan eu cefnogi gyda’r broses gofrestru, ymholiadau am gyllid, a gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol Agored drwy alwadau ffôn mewnol/allanol ac e-byst yn bennaf.
- Trosglwyddo galwadau’n rhagweithiol i dimau arbenigol am gyngor a chanllawiau pellach lle bo’n briodol fel rhan o fodel Gwybodaeth, Cyngor a Chanllawiau.
- Gan ddefnyddio eich profiad a’ch menter, byddwch yn llywio ac yn ymateb i faterion, gan ddehongli a chymhwyso gweithdrefnau a chanllawiau yn unol â pholisïau cytunedig.
Prosesau Gweithredol a Safonau
- Cyflawni unrhyw dasgau gweinyddol neu brosesau sy’n gysylltiedig ag ymholiadau neu geisiadau myfyrwyr mewn modd amserol.
- Cofnodi cyswllt â myfyrwyr, adolygu a diweddaru cofnodion gan ddefnyddio systemau’r Brifysgol.
- Gweithio ar rota fel rhan o dîm i sicrhau bod yr holl weithgarwch yn cael ei drin yn brydlon ac yn effeithiol, ac o fewn y Lefelau Gwasanaeth a gytunwyd.
- Cwrdd â’r safonau gwasanaeth disgwyliedig ac ymdrechu i’w rhagori, gan ddarparu profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ac ymholwr drwy eu rhoi wrth galon popeth a wnewch.
Gwella ac Datblygu Parhaus
- Cofleidio ein diwylliant o welliant parhaus, er enghraifft drwy gymryd rhan mewn mentrau ansawdd a chyfrannu mewn cyfarfodydd tîm.
- Adnabod a dathlu llwyddiannau, tra’n cymryd cyfrifoldeb i weithredu ar adborth, gan wneud pethau’n well gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad.
- Chwilio am gyfleoedd i’ch herio a’ch datblygu, gan siarad yn agored â’ch Rheolwr Tîm am eich perfformiad eich hun, ac ymdrechu i ddod yn arbenigwr yn eich maes.
- Mynychu digwyddiadau hyfforddi a sesiynau briffio i sicrhau bod gennych fynediad at wybodaeth weithredol gywir a chyfredol, fel eich bod yn gallu mabwysiadu arferion a gweithdrefnau busnes cywir a sy’n esblygu.
- Mynychu a chyfrannu’n weithgar mewn cyfarfodydd tîm, gan gynnig syniadau a mentrau i wella’r busnes a gwneud y ddarpariaeth gwasanaeth mor effeithlon â phosibl.
- Ymgysylltu’n gadarnhaol â chefnogi a datblygu aelodau newydd o’r tîm.
- Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau ag eraill ar draws cyfadrannau ac adrannau.
Amdanoch Chi
Hanfodol
- Gallu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gyda agwedd “gallwn ni” ac mewn dull proffesiynol.
- Profiad o ymateb i ymholiadau amrywiol ac o weithredu arnynt, gan ddefnyddio ystod eang o ffynonellau gwybodaeth.
- Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig e.e. technegau ffôn effeithiol, defnyddio Saesneg clir i egluro polisïau a gweithdrefnau ac i ysgrifennu’n glir, yn gryno ac yn gywir.
- Gallu delio â gwybodaeth a gweithdrefnau dogfennedig: defnyddio menter i ddatrys problemau, gan gydnabod ffiniau.
- Sgiliau TG profedig, gan gynnwys defnyddio pecynnau Microsoft Office.
- Profiad o weithio’n effeithiol mewn tîm, a gweithio i gyrraedd targedau personol, tîm ac sefydliadol.
- Sgiliau trefnu da gan gynnwys gallu i gwrdd â therfynau amser, gweithio’n gynhyrchiol ac yn gywir mewn amgylchedd dan bwysau.
- Hyblygrwydd gan gynnwys gallu i addasu i amgylchiadau newidiol (gweithio o gartref ac o’r swyddfa), dyletswyddau ac arferion gwaith.
- Tystiolaeth o ymrwymiad i ddatblygiad parhaus.
- Dealltwriaeth gadarn ac ymrwymiad i gyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth, ynghyd â dealltwriaeth ac empathi gyda gweithio mewn amgylchedd dwyieithog.
Dymunol
- Profiad o weithio mewn model hybrid ac o gyfathrebu o bell.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd addysg uwch.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid cymhleth aml-sianel ac o ymdopi â nifer fawr o alwadau ffôn, e-byst a gohebiaeth.
- Profiad o weithio gyda system rheoli perthynas â chwsmeriaid (CRM).
- NVQ lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Wybodaeth, Cyngor a Chanllawiau.
Cymorth gyda'ch cais
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Beth yw'r buddion i chi?
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Rydym yn agored i drafodaethau am weithio hyblyg Boed hynny’n rannu swydd, gweithio rhan-amser, oriau cywasgedig neu drefniant gwaith arall. Cysylltwch â ni i drafod beth sy’n gweithio orau i chi.
Gweithio hybrid Disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau eu hyfforddiant ac yna gweithio mewn dull hybrid. Mae hyn yn golygu y dylai ymgeiswyr allu gweithio’n gyfforddus o’u cartref ac o’u swyddfa benodedig yn y Brifysgol Agored, os oes cysylltiadau trafnidiaeth hyfyw i Gaerdydd. Bydd gliniadur yn cael ei ddarparu i ymgeiswyr i weithio’n hyblyg.
Camau nesaf yn y broses Recriwtio
Cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 1 Rhagfyr 2025.
Gellir cyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Nodwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfweliad neu unrhyw fath arall o asesiad. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd os bydd angen un.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
- CV
- Datganiad cefnogol o ddim mwy na 1000 o eiriau yn amlinellu sut rydych yn bodloni’r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.