Cynghorydd Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr, Cymru
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).
Y Rôl
Rydym yn recriwtio 6 swydd Cynghorydd Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr, Cymru i gyd, pob un â chontractau tymor sefydlog yn rhedeg tan 31 Gorffennaf 2028.
Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb a bod y daith yn ddi-dor i fyfyrwyr. Mae hefyd yn ymrwymedig i gefnogi eu llwyddiannau dysgu, ni waeth beth fo'u cefndiroedd neu gymwysterau addysgol blaenorol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel rhan o'n Tîm Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr. Byddwch yn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol â'u hymholiadau, yn eu helpu i wneud dewisiadau astudio unigol sy'n sicrhau llwyddiant, waeth beth y gallai hynny ei olygu iddynt. Byddwch yn defnyddio arbenigedd mewn pwnc i arwain myfyrwyr, gan ddefnyddio ein systemau mewnol i ddarparu gwybodaeth ac i wella profiadau myfyrwyr ym mhob cam o'u taith.
Byddwch yn cyfathrebu â myfyrwyr dros y ffôn a thrwy e-bost yn bennaf a bydd gennych amserlen ddyddiol i'ch cefnogi i wneud hyn. Wrth i chi ennill profiad, byddwch yn cael hyfforddiant pellach ar ddefnyddio sianeli cyfathrebu eraill megis gwe-sgwrsio, galwadau allanol neu'r cyfryngau cymdeithasol.
Y Brifysgol Agored yng Nghymru
Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau academaidd a chymorth i fyfyrwyr ac ymholwyr ledled y wlad. Caiff ei hariannu drwy incwm ffioedd myfyrwyr a thrwy gymorth gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr) yng Nghymru ac mae'n gwasanaethu dros 16000 o fyfyrwyr.
Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gynnal presenoldeb pwerus a gweladwy yng Nghymru, gan gydweithio'n agos â darparwyr a sefydliadau addysgol eraill er mwyn cynnig cyfleoedd addysg uwch rhan-amser o ansawdd uchel drwy ddysgu o bell. Mae'r Brifysgol yn canolbwyntio ar weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Cyllido i ddiwallu anghenion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno â'r Brifysgol wrth iddi drawsnewid ei gweithrediadau ledled y DU ac adnewyddu ei hymagwedd academaidd. Mae staff a leolir yng Nghymru yn ymwneud â'r gwaith o gynllunio a threfnu gweithrediadau ar raddfa fawr, gan ddefnyddio technoleg i gynhyrchu deunydd a gwybodaeth, a rheoli adnoddau yn effeithiol i gynhyrchu a darparu gwasanaethau'n brydlon. Mae'r holl staff yn canolbwyntio ar gynnal a gwella ein safonau uchel o gymorth i fyfyrwyr unigol ac mae ganddynt ethos gwasanaethau cwsmeriaid cryf.
Lleolir Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn 18 Heol y Tollty, Caerdydd. Mae'n cymryd pum munud ar droed i'w chyrraedd o orsafoedd trenau a bysiau Caerdydd Canolog. Oherwydd ei lleoliad yng nghanol y ddinas, nid oes lleoedd parcio ar gael ond mae nifer o feysydd parcio gerllaw. I gael rhagor o wybodaeth am Y Brifysgol Agored yng Nghymru a'r Brifysgol, gweler gwefan Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn www.open.ac.uk/wales.
Cyfrifoldebau Allweddol
Darparwyr gwasanaeth Amlsianel
Byddwch yn:
- Darparu gwybodaeth i ymholwyr a myfyrwyr ac yn eu cefnogi gyda phrosesau cofrestru, ymholiadau am gyllid a gwybodaeth gyffredinol am Y Brifysgol Agored drwy wneud a derbyn galwadau ffôn ac anfon a derbyn negeseuon e-bost yn bennaf.
- Trosglwyddo galwadau'n rhagweithiol i dimau arbenigol i gael cyngor ac arweiniad pellach lle bo’n briodol fel rhan o fodel Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad.
- Defnyddio eich profiad a'ch blaengaredd i ymchwilio i broblemau ac ymateb iddynt, dehongli a chymhwyso gweithdrefnau a chanllawiau a nodir mewn polisïau y cytunwyd arnynt.
Prosesau a safonau gweithredol
Byddwch yn:
- Cynnal unrhyw dasgau neu brosesau gweinyddol mewn perthynas â cheisiadau myfyriwr neu ymholwr mewn modd amserol.
- Cynnal cysylltiad â myfyrwyr ac adolygu a diweddaru cofnodion gan ddefnyddio systemau'r Brifysgol.
- Gweithio yn ôl rota fel rhan o dîm er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phob gweithgaredd yn brydlon ac yn effeithiol, ac yn unol â Lefelau Gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
- Cyrraedd ac anelu at ragori ar y safonau gwasanaeth disgwyliedig a nodir yn ein fframwaith ansawdd, gan ddarparu profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ac ymholwr drwy eu cadw wrth galon popeth a wnewch.
Gwelliant a Datblygiad Parhaus
Byddwch yn:
- Manteisio ar ein diwylliant o welliant parhaus drwy, er enghraifft, ymgysylltu â mentrau o ansawdd a thrwy gyfrannu at gyfarfodydd tîm.
- Cydnabod a dathlu llwyddiannau, tra'n cymryd cyfrifoldeb i weithredu ar adborth, a gwneud pethau'n well gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad.
- Chwilio am gyfleoedd a fydd yn eich ymestyn a'ch herio, siarad yn agored â'ch Rheolwr Tîm am eich perfformiad eich hun, gan ymdrechu i ddod yn hyrwyddwr yn eich maes arbenigedd.
- Mynychu digwyddiadau hyfforddi a briffiau i sicrhau bod gennych wybodaeth weithredol gywir a chyfredol fel eich bod yn gallu mabwysiadu arferion a gweithdrefnau busnes cywir ac sy'n esblygu.
- Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd tîm tra'n cyfrannu'n weithredol at syniadau i wella'r busnes a mentrau i wella darpariaeth y gwasanaeth.
- Ymgymryd yn gadarnhaol i roi cymorth i aelodau newydd o'r tîm a'u datblygu.
- Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau gydag eraill ar draws ysgolion ac adrannau.
Amdanoch Chi
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
- Addysg hyd at lefel TGAU, gan gynnwys gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg, neu gymhwyster cyfatebol.
- Ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych, gydag agwedd gadarnhaol ac mewn modd proffesiynol.
- Profiad o ymateb i ymholiadau amrywiol a rhoi datrysiadau ar waith, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth.
- Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig e.e. technegau ffôn effeithiol, defnyddio Saesneg clir i esbonio polisïau a phrosesau ac i ysgrifennu'n glir, yn gryno ac yn gywir.
- Gallu delio â gwybodaeth a gweithdrefnau wedi'u dogfennu a'u dilyn: bod yn flaengar yn datrys problemau, tra'n cydnabod ffiniau.
- Sgiliau TGCh y gellir eu harddangos, gan gynnwys defnyddio pecynnau Microsoft Office.
- Profiad o weithio'n effeithiol fel rhan o dîm, a gweithio i gyflawni targedau personol, targedau tîm a thargedau sefydliadol.
- Sgiliau trefnu da gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser, gweithio'n gynhyrchiol ac yn gywir mewn amgylchedd cyflym.
- Hyblygrwydd gan gynnwys y gallu i addasu i amgylchiadau (gweithio gartref ac yn y swyddfa), dyletswyddau ac arferion gwaith amrywiol.
- Tystiolaeth o ddangos ymrwymiad i ddatblygiad parhaus.
- Y gallu i gyflawni'r rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol a dealltwriaeth ac empathi gyda gweithio mewn amgylchedd dwyieithog.
Dymunol
- Profiad o weithio mewn model hybrid a chyfathrebu o bell.
- Yn gallu cyfathrebu’n hyderus gan ddefnyddio’r Gymraeg.
- Profiad o weithio o fewn amgylchedd addysg uwch.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaethau cwsmeriaid aml-sianel cymhleth ac ymdopi â nifer fawr o alwadau, negeseuon e-bost a gohebiaeth.
- Profiad o weithio â system rheoli cydberthnasau â chwsmeriaid.
- NVQ lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Wybodaeth, Cyngor ac Arweiniad.
Cymorth gyda'ch cais
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Beth yw'r buddion i chi?
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.
Lleoliad a threfniadau Gwaith
Rhagwelir y gellir mabwysiadu trefniant gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gallwch weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod contract y rôl hon yn cydfynd â'n swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd angen i ddeiliad y rôl weithio o'n campws yng Nghaerdydd mewn ymateb i anghenion busnes. Rydym yn rhagweld y bydd hyn ddwywaith yr wythnos, ar gyfartaledd, ond efallai y bydd angen gwneud mwy na hynny.
Bydd angen ichi weithio patrwm a gytunir rhwng 8am – 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn seiliedig ar ofynion y busnes. Noder efallai y cyfyngir ar absenoldeb yn y cyfnodau prysuraf sef Awst, Medi, Hydref ac Ionawr.
Rhagor o wybodaeth
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Nodwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad neu unrhyw ffurf arall o asesu. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd os bydd angen.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar.
Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthi’n gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
- CV
- Datganiad Ategol (Ni ddylai eich Datganiad Ategol fod yn fwy na 1000 o eiriau a dylai amlinellu pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl gan amlinellu hefyd sut mae eich sgiliau a'ch profiad yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol a restrir uchod).
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.