Y Rôl
Bydd y Rheolwr Partneriaethau yn cefnogi ac yn datblygu amrywiaeth o fentrau i wella gwaith ymgysylltu allanol Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Byddwch yn ymgysylltu ag ysgolion, colegau, chyflogwyr, partneriaethau rhanbarthol, sefydliadau cynrychioladol, darparwyr addysg eraill, y Llywodraeth, partneriaid cymunedol, a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, sector preifat a'r trydydd sector ar draws y dirwedd ddysgu ac sy'n seiliedig ar sgiliau yng Nghymru. Byddwch yn chwarae rôl weithredol allweddol, gan gyfrannu at enw da Y Brifysgol Agored fel prif ddarparwr dysgu o bell hyblyg o ansawdd uchel.
Bydd gofyn i chi arwain a chymryd cyfrifoldeb dros bortffolio o waith penodol gyda'r sector ysgolion ledled Cymru. Bydd yn ofynnol i chi hefyd oruchwylio tasgau swyddogion prosiect/staff cymorth/cynorthwywyr (fel sy'n ofynnol), gan sicrhau caiff y prosiectau eu monitro yn unol â blaenoriaethau'r tîm a manylebau cyllidwyr ac y caiff gwybodaeth adrodd ei chyflwyno'n gywir ac yn amserol.
Bydd disgwyl i chi ddefnyddio eich sgiliau a'ch arbenigedd i ddatblygu a chyd-ddylunio mentrau gydag amrywiaeth o bartneriaid allanol a mewnol presennol a newydd, gan asesu sgiliau ac anghenion dysgu'r dyfodol, a datblygu ymchwil, arloesedd, cyfnewid gwybodaeth a chyfleoedd cenhadaeth ddinesig i gynyddu cyrhaeddiad cynnig Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Fel aelod o'r tîm Marchnata, Cyfathrebu a Phartneriaethau, bydd yn ofynnol i chi gefnogi portffolio o waith sy'n cynnwys:
- Gweithio gydag ysgolion a cholegau addysg bellach i ddatblygu llwybrau dysgu a chyfleoedd i fyfyrwyr gyflawni astudiaethau Y Brifysgol Agored mewn lleoliadau cyfarwydd.
- Gweithio gyda staff academaidd i wella cyfleoedd ymchwil, ysgoloriaeth ac arloesedd i sicrhau effeithiau cymdeithasol neu fasnacheiddio.
Bydd hefyd angen i chi gefnogi cydweithwyr ar draws portffolios o waith o fewn y tîm Partneriaethau sy'n cynnwys:
- Gweithio ochr yn ochr â sefydliadau cymunedol a'r trydydd sector, cymdeithasau tai a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol o ddiddordeb i ehangu mynediad at addysg uwch ac i gydweithio wrth ddylunio datrysiadau dysgu.
- Datblygu ein partneriaethau â chyflogwyr ac undebau llafur, gan gynnwys dulliau arloesol o fynd i'r afael ag anghenion meithrin sgiliau a datblygu'r gweithlu.
Bydd disgwyl i chi dorri tir newydd a bod yn greadigol, a defnyddio cwricwlwm helaeth a dulliau unigryw Y Brifysgol Agored i ddiwallu anghenion dysgwyr a sefydliadau.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Helpu i gynllunio gweithgarwch ymgysylltu allanol Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn strategol a'i roi ar waith, gan chwarae rôl ganolog wrth ddyfnhau a datblygu ein gwaith gyda phartneriaid allanol yn unol â strategaeth Y Brifysgol Agored.
- Sefydlu, datblygu a chynnal cydberthnasau cadarnhaol â phartneriaid allanol a mewnol i hwyluso cyfleoedd priodol, arloesol ac effeithiol.
- Cymryd cyfrifoldeb dros bortffolio o gydberthnasau a rhaglenni penodol â phartneriaid, a chynnal prosesau priodol gan gynnwys cadw cofnodion, cyflwyno adroddiadau a gwaith rheoli prosiect cyffredinol.
- Cyfrannu at gyfleoedd cynhyrchu incwm a'u datblygu.
- Cyfrannu at gyflawni targedau a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â chynllun busnes Y Brifysgol Agored yng Nghymru, ac ymrwymiadau mewnol ac allanol eraill.
- Cyfrannu at weithgarwch gwerthuso, casglu a dadansoddi data, llunio adroddiadau a gweithgarwch lledaenu arall.
- Nodi cyfleoedd i hyrwyddo, cyhoeddi a rhannu eich llwyddiannau, gan weithio'n agos gyda'r tîm Marchnata, Cyfathrebu a Phartneriaethau.
- Cyfrannu at y trosolwg o gyllidebau yn eich maes gwaith, gan gynnwys darogan, monitro a sicrhau'r gwerth gorau.
- Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr i nodi cyfleoedd cyllido priodol a chyfrannu at gynigion i ddatblygu gweithgareddau ac allbynnau yn eich portffolio.
- Dadansoddi data perthnasol ac ysgrifennu a llunio adroddiadau ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol, gan gynnwys unrhyw ffurflenni statudol neu adroddiadau monitro ar gyfer cyrff cyllido.
- Cyfrannu at grwpiau a phwyllgorau mewnol ac allanol fel y bo'n briodol.
- Goruchwylio gwaith swyddogion prosiect/staff cymorth/cynorthwywyr fel sy'n ofynnol.
- Efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliad y rôl gyflawni dyletswyddau rhesymol eraill fel sy'n ofynnol o fewn natur dyletswyddau a chyfrifoldebau'r rôl, ar yr amod y caiff unrhyw newidiadau parhaol fel arfer eu hymgorffori yn y disgrifiad swydd mewn termau penodol.
Disgwylir i bob aelod o'r staff wneud y canlynol:
- Cydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch a Chyfle Cyfartal y Brifysgol wrth gyflawni eich dyletswyddau.
- Cymryd gofal rhesymol o ran eich Iechyd a'ch Diogelwch eich hun ac Iechyd a Diogelwch unrhyw berson arall y gallai'ch gweithrediad neu'ch anweithredoedd yn y gwaith effeithio arno.
- Cydweithredu â'r Brifysgol Agored i sicrhau, cyn belled ag y bo angen, y cydymffurfir â Gofynion Statudol, Codau Ymarfer, Polisïau'r Brifysgol a threfniadau Iechyd a Diogelwch Adrannol.
- Dangos ymrwymiad cadarn i egwyddorion ac arfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Sgiliau a Phrofiad
Gofynion Hanfodol
- Gradd neu brofiad perthnasol cyfatebol.
- Profiad o weithio yn y sector ysgolion yng Nghymru neu gyda'r sector
- Profiad o feithrin cydberthnasau cynaliadwy a phwrpasol ar gyfer sefydliad ag amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid.
- Hanes o reoli sawl prosiect neu lif gwaith yn llwyddiannus ynghyd ag enghreifftiau o waith a gychwynnwyd gennych sydd wedi gwneud gwahaniaeth/wedi cael effaith.
- Profiad o gynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith er mwyn cyflawni sawl amcan.
- Profiad o roi prosiectau ar waith a'u gwerthuso, gan gynnwys lledaenu dysgu i grwpiau eraill â diddordeb.
- Dealltwriaeth o'r ysgogwyr polisi cyfredol a'r dulliau darparu sy'n gysylltiedig ag addysg drydyddol yng Nghymru.
- Galluoedd trefnu ardderchog, yn benodol mewn perthynas â phortffolio gwaith amrywiol a heriol.
- Y gallu i weithio'n annibynnol i wneud penderfyniadau ystyrlon ac i weithio fel rhan o dîm sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu sydd wedi'u datblygu'n dda, gan gynnwys sgiliau cyflwyno ardderchog gyda phrofiad o ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol a threfnu digwyddiadau, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
- Ffordd o feddwl sy'n canolbwyntio ar dwf, lle rydych yn wydn ac yn gallu addasu i newidiadau.
- Ymrwymiad i ddelfrydau Y Brifysgol Agored, sy'n cynnwys materion cyfle cyfartal ac amrywiaeth.
- Trwydded yrru lawn a mynediad at gerbyd.
Dymunol
- Gradd uwch mewn pwnc perthnasol.
- Profiad o ddatblygu ceisiadau neu gynigion gan ffynonellau a ariennir yn allanol.
- Gwybodaeth a phrofiad o gefnogi cyfranogiad sy'n ehangu yng nghyd-destun addysg uwch, a phrofiad o ddysgu sy'n seiliedig ar waith a gweithgarwch meithrin sgiliau.
- Dealltwriaeth o anghenion dysgwyr rhan-amser sy'n oedolion a'r heriau sy'n wynebu myfyrwyr mewn cyd-destun dysgu o bell.
- Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gofynion Hanfodol
Efallai y bydd yn ofynnol i chi gyflawni dyletswyddau rhesymol eraill fel sy'n ofynnol o fewn natur dyletswyddau a chyfrifoldebau'r rôl, ar yr amod y caiff unrhyw newidiadau parhaol i natur y swydd fel arfer eu hymgorffori yn y Disgrifiad Swydd mewn termau penodol.
Ystyrir secondiadau ar gyfer y cyfle hwn.
Mae gweithio gartref gydag ymweliadau cyson â Chaerdydd yn bosibl. Fel rhan o'r rôl hon, bydd angen ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru a theithio i ymgysylltu â phartneriaid/rhanddeiliaid y prosiect yn ôl yr angen, ynghyd â theithio i Milton Keynes ac i leoliadau eraill Y Brifysgol Agored o bryd i'w gilydd. Bydd trwydded yrru lawn a mynediad at gerbyd yn hanfodol.
Sut i wneud cais: I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r canlynol fel dogfennau ar wahân:
- CV
- Datganiad ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam y mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i gymwyseddau gofynnol y rôl hon fel y'u nodir yn y disgrifiad swydd.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Noder: Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar.