Disgrifiad Swydd
Teitl Swydd:  Rheolwr Sgiliau ac Arloesi
ID y cais:  970
Lleoliad y Swydd:  Cardiff, O Bell/Hybrid
Gweinyddiaeth:  The Open University in Wales
Cyflog:  £38,784 to £46,049
Dyddiad Cau:  15 September 2025
Oriau Gweithio Wythnosol:  37
Math o Gontract:  Contract Cyfnod Penodol
Contract Cyfnod Penodol: Dyddiad Gorffen:  12 months from start date
Iaith Gymraeg::  Dymunol
Disgrifiad Swydd: 

 

Rydym o'r farn na ddylai eich man cychwyn mewn bywyd gyfyngu ar eich taith.

Mae'r Brifysgol Agored yn sefydliad unigryw a grëwyd 50 mlynedd yn ôl er mwyn agor addysg i bawb. Rydym yn agored i unrhyw un, yn unrhyw le, yn newid miliynau o fywydau ledled y byd a phob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o helpu pobl i lwyddo. Mae ein defnydd arloesol o ddulliau dyfeisgar, fel ein partneriaeth BBC, yn golygu ein bod yn cyrraedd mwy o bobl nag unrhyw brifysgol arall.

Rydym yn gweithio ar draws pedair gwlad y DU a ni yw'r dewis mwyaf poblogaidd ar gyfer astudiaeth hyblyg, ar-lein o bell.

 

Gwybodaeth am y Rôl 

Bydd y rôl hon yn cefnogi ac yn datblygu amrywiaeth o fentrau i wella sgiliau a gwaith arloesi'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Byddwch yn ymgysylltu â chyflogwyr, partneriaethau rhanbarthol, sefydliadau cynrychioliadol, darparwyr addysg eraill, y llywodraeth, partneriaid yn y gymuned, a sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ar draws y dirwedd dysgu a sgiliau yng Nghymru. Byddwch yn chwarae rôl weithredol allweddol, gan adeiladu ar enw da'r Brifysgol Agored fel prif ddarparwr dysgu hyblyg ac o bell o ansawdd uchel.   

Bydd disgwyl i chi ddefnyddio eich sgiliau a'ch arbenigedd i ddatblygu a chyd-ddylunio mentrau gydag amrywiaeth o bartneriaid mewnol ac allanol presennol a newydd, gan asesu sgiliau ac anghenion dysgu yn y dyfodol a datblygu cyfleoedd ymchwil, arloesi a chyfnewid gwybodaeth i gynyddu cyrhaeddiad cynnig y Brifysgol Agored yng Nghymru.  

Fel aelod o'r tîm Dysgu, Sgiliau ac Arloesi, bydd gofyn i chi gefnogi portffolio o waith sy'n cynnwys: 

  • Datblygu ein partneriaethau gyda chyflogwyr, gan gynnwys dulliau arloesol o fynd i'r afael ag anghenion sgiliau a datblygu'r gweithlu.  
  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r dirwedd sgiliau yng Nghymru, gan gynnwys blaenoriaethau economaidd a chymdeithasol a meysydd ffocws ar gyfer rhanddeiliaid Medr a Llywodraeth Cymru.
  • Gweithio gyda staff academaidd i wella cyfleoedd ymchwil ac arloesi i sicrhau amcanion cyfnewid gwybodaeth, arloesi a masnacheiddio.
  • Gweithio ochr yn ochr â sefydliadau yn y gymuned a’r trydydd sector, i ehangu mynediad at addysg uwch a chydweithio i ddylunio atebion dysgu sy'n mynd i'r afael ag anghenion a blaenoriaethau sgiliau. 


Ar unrhyw un adeg, bydd gofyn i chi gymryd cyfrifoldeb arweiniol am bortffolio penodol o waith a fydd yn newid ac yn addasu yn unol ag anghenion gweithredol. Bydd gofyn i chi hefyd oruchwylio tasgau swyddogion prosiect/staff cymorth/cynorthwywyr (yn ôl yr angen), gan sicrhau bod prosiectau'n cael eu monitro yn unol â blaenoriaethau'r tîm a manylebau cyllidwyr a bod gwybodaeth adroddiadau yn cael ei chyflwyno'n gywir ac yn amserol. 

Bydd disgwyl i chi hefyd arloesi a bod yn greadigol, a defnyddio arbenigedd ymchwil helaeth, cwricwlwm a dulliau unigryw'r Brifysgol Agored i ddiwallu anghenion cyflogwyr, dysgwyr a sefydliadau partner.  

 

Prif Gyfrifoldebau

  • Cefnogi'r gwaith o gynllunio a gweithredu gwaith sgiliau ac arloesi'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn strategol, gan chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddyfnhau a datblygu ein gwaith gyda chyflogwyr a sefydliadau partner sy'n gysylltiedig â sgiliau, yn unol â strategaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru.    
  • Sefydlu, datblygu a chynnal cysylltiadau cadarnhaol gyda phartneriaid allanol a mewnol i hwyluso cyfleoedd priodol, arloesol ac effeithiol.
  • Bod yn gyfrifol am bortffolio o brosiectau a mentrau penodol gan gyflogwyr a phartneriaid a chynnal prosesau priodol gan gynnwys cadw cofnodion, adroddiadau a rheoli prosiectau cyffredinol.
  • Gweithio'n rhagweithiol ochr yn ochr â chydweithwyr i nodi cyfleoedd cyllido arloesedd a chyfnewid gwybodaeth priodol a chyfrannu at gynigion i ddatblygu gweithgareddau ac allbynnau yn eich portffolio.
  • Cyfrannu at gyfleoedd datblygu arloesedd a chyfnewid gwybodaeth masnachol, gan gynnwys cymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu ceisiadau am gyllid sgiliau ac arloesi, gan ddefnyddio ymchwil a dadansoddi priodol i ysgrifennu mewn modd perswadiol a dylanwadol.
  • Cyfrannu at gyflawni targedau a chanlyniadau sy'n gysylltiedig â chynllun busnes y Brifysgol Agored yng Nghymru ac ymrwymiadau mewnol ac allanol eraill.  
  • Cyfrannu at weithgarwch gwerthuso, casglu a dadansoddi data, a gweithgarwch lledaenu arall.
  • Nodi cyfleoedd i hyrwyddo, cyhoeddi a rhannu eich llwyddiannau, gan weithio'n agos gyda'r tîm Marchnata a Chyfathrebu.  
  • Cyfrannu at y trosolwg o gyllidebau yn eich maes gwaith, gan gynnwys rhagamcanu, monitro a sicrhau'r gwerth gorau.  
  • Dadansoddi data perthnasol ac ysgrifennu a chynhyrchu adroddiadau ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol, gan gynnwys unrhyw ffurflenni statudol neu adroddiadau monitro i gyrff cyllido.
  • Cyfrannu at grwpiau a phwyllgorau mewnol ac allanol fel y bo'n briodol.
  • Goruchwylio gwaith swyddogion prosiect/staff cefnogi/cynorthwywyr yn ôl yr angen.
  • Efallai y bydd gofyn i ddeiliad y swydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol o fewn natur dyletswyddau a chyfrifoldebau'r rôl, yn ddibynnol ar yr amod y bydd unrhyw newidiadau o natur barhaol fel arfer yn cael eu hymgorffori yn y disgrifiad swydd mewn termau penodol.  


Disgwylir i'r holl staff wneud y canlynol: 

  • Cydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch a Chyfle Cyfartal y Brifysgol wrth gyflawni eich dyletswyddau.
  • Cymryd gofal rhesymol o'ch Iechyd a'ch Diogelwch eich hun ac Iechyd a Diogelwch unrhyw un arall y gallai eich gweithredoedd neu eich esgeulustod yn y gwaith effeithio arnynt.  
  • Cydweithredu â'r Brifysgol Agored i sicrhau, cyn belled ag y bo angen, y cydymffurfir â Gofynion Statudol, Codau Ymarfer, Polisïau'r Brifysgol a threfniadau Iechyd a Diogelwch Adrannol.
  • Dangos ymrwymiad cryf i egwyddorion ac ymarfer cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

 

Sgiliau a Phrofiad

 

Hanfodol  

  • Ymrwymiad i ddelfrydau'r Brifysgol Agored, gan gynnwys cyfle cyfartal a materion amrywiaeth.
  • Gradd neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad o feithrin perthnasoedd cynaliadwy a phwrpasol ar gyfer sefydliad gydag amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid.  
  • Hanes blaenorol o reoli nifer o brosiectau neu ffrydiau gwaith yn llwyddiannus gydag enghreifftiau o waith rydych chi wedi'i ddechrau sydd wedi gwneud gwahaniaeth/cael effaith.  
  • Profiad o weithredu a gwerthuso prosiectau, gan gynnwys lledaenu'r hyn a ddysgwyd i grwpiau buddiant eraill.  
  • Dealltwriaeth o ysgogiadau polisi cyfredol a mecanweithiau darparu sy'n ymwneud ag addysg drydyddol a blaenoriaethau economaidd, sgiliau a datblygu'r gweithlu ehangach yng Nghymru.
  • Sgiliau trefnu rhagorol, yn enwedig mewn perthynas â phortffolio gwaith amrywiol a heriol, a phrofiad o gynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith i gyflawni nifer o amcanion.
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun i wneud penderfyniadau ystyriol a gweithio fel rhan o dîm sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu datblygedig gan gynnwys sgiliau cyflwyno rhagorol gyda phrofiad o ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol a allai gynnwys ysgrifennu ceisiadau a chynigion cyllido, a threfnu digwyddiadau, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
  • Meddylfryd twf ac yn wydn ac yn gallu addasu i newid.  


Dymunol  

  • Gradd uwch mewn pwnc perthnasol.
  • Profiad o ddatblygu cynigion neu fidiau o ffynonellau a ariennir yn allanol.
  • Gwybodaeth a phrofiad o weithio gyda chyflogwyr i ddarparu datblygiad proffesiynol parhaus, a gweithgaredd datblygu sgiliau.
  • Dealltwriaeth o gyfnewid gwybodaeth ac arloesi ym maes addysg uwch.
  • Gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

 

 

Gofynion hanfodol

Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yng Nghaerdydd lle byddwch yn gweithio o'r swyddfa yng Nghaerdydd 2 ddiwrnod yr wythnos o leiaf. Byddem hefyd yn rhagweld yr angen am hyblygrwydd o ran gofynion y busnes. Serch hynny, rydym yn hapus i gael trafodaeth ynghylch trefniadau gweithio hybrid, yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol. Bydd disgwyl i chi deithio rhywfaint o gwmpas Cymru ac i leoliadau eraill y Brifysgol Agored yn ôl yr angen. Rydym yn fodlon ystyried trefniadau amgen a byddem yn annog unigolion sy'n byw yng ngogledd, canolbarth neu orllewin Cymru i wneud cais am y swydd hon.


Sut i wneud cais: I wneud cais ar gyfer y swydd hon, cyflwynwch y canlynol fel dogfennau ar wahân:

  • CV
  • Datganiad ategol hyd at 1000 o eiriau. Dylech nodi yn eich datganiad pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd a darparu enghreifftiau o sut mae'ch sgiliau a phrofiad yn bodloni'r cymwyseddau ar gyfer y rôl hon fel y manylir yn y swydd ddisgrifiad.

 

Noder: Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os derbynnir nifer boddhaol o geisiadau. Rydym felly'n annog ceisiadau cynnar.

 

Cipolwg ar Wybodaeth
Rhannwch y swydd hon

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y broses recriwtio, neu ynghylch eich cais, cysylltwch â: Careers@open.ac.uk.

Chwilio am rolau Darlithydd Cysylltiol?

Defnyddiwch ein hafan Darlithwyr Cysylltiol i ddod o hyd i rolau Darlithwyr Cysylltiol.

Chwiliwch am rolau Darlithwyr Cysylltiol nawr >

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau staff.