Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).
Y Rôl
Bydd y Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus yn rhan o'r tîm Marchnata, Cyfathrebu a Phartneriaethau yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Bydd yn cefnogi ymgysylltiad Y Brifysgol Agored yng Nghymru â gwleidyddion, gwneuthurwyr polisi a rheoleiddwyr ar drobwynt i addysg uwch yng Nghymru yn dilyn etholiad 2026 y Senedd ac wrth i system reoleiddio newydd Medr gael ei hymgorffori.
Gan adrodd i'r Uwch-reolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, bydd y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi a chyflawni ymgysylltiad gwleidyddol, monitro a dadansoddi datblygiadau polisi, a helpu i sicrhau bod Y Brifysgol Agored yn weladwy, yn gredadwy ac wedi'i briffio'n dda. Mae'r rôl hon yn cefnogi enw da y Brifysgol fel partner credadwy a dibynadwy yn amgylchedd polisi Cymru.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Monitro a dadansoddi datblygiadau polisi a gwleidyddiaeth sy'n berthnasol i addysg uwch, dysgu gydol oes a sgiliau, o Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill, gan rannu gwybodaeth yn fewnol mewn modd amserol.
- Llunio nodiadau briffio clir, crynodebau a deunyddiau cefndirol i gydweithwyr ac uwch-arweinwyr.
- Helpu gyda'r broses o gydlynu a drafftio ymatebion i ymgyngoriadau, galwadau am dystiolaeth ac adolygiadau polisi.
- Helpu gyda'r broses o ymgysylltu ag Aelodau o'r Senedd, Gweinidogion, cynghorwyr, swyddogion a rhanddeiliaid y sector, gan gynnwys cynnal cofnodion cysylltu ac ymgysylltu cywir.
- Helpu gyda'r gwaith o gynllunio a chyflawni gweithgarwch ymgysylltiad gwleidyddol, gan gynnwys cyfarfodydd, cyfarfodydd bord gron, ymweliadau a digwyddiadau.
- Cyfrannu at y gwaith o gyflawni cynllun materion cyhoeddus y Brifysgol, gan sicrhau y caiff camau dilynol sy'n deillio o weithgarwch ymgysylltiad eu holrhain a'u datblygu.
- Gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol Agored i gydlynu negeseuon, casglu gwybodaeth a chefnogi prosesau adrodd mewnol.
- Rhoi cymorth ac arweiniad ymarferol i gydweithwyr ar brosesau gwleidyddol a pholisi Cymru.
Amdanoch Chi
Meini prawf hanfodol:
- Profiad o weithio ym maes materion cyhoeddus, polisi, llywodraeth, gwleidyddiaeth neu amgylchedd tebyg sy'n ymdrin â rhanddeiliaid.
- Dealltwriaeth o brosesau gwleidyddol a llunio polisi Cymru, gan gynnwys y Senedd a Llywodraeth Cymru.
- Gallu amlwg i fonitro, dadansoddi a dehongli datblygiadau polisi a gweithgarwch gwleidyddol ac esbonio'r goblygiadau.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf yn ysgrifenedig, gan gynnwys profiad o lunio briffiau, crynodebau a deunyddiau cefndirol i gynulleidfaoedd mewnol neu uwch-gynulleidfaoedd.
- Profiad o gefnogi ymgysylltiad gwleidyddol neu ymgysylltu â rhanddeiliaid, fel cyfarfodydd, digwyddiadau, ymweliadau neu gyfarfodydd bord gron.
- Y gallu i reoli gwybodaeth rhanddeiliaid, manylion cyswllt a gweithgarwch ymgysylltu yn gywir ac yn systemataidd.
- Bod yn hyderus wrth weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys gwleidyddion, swyddogion a phartneriaid y sector.
- Sgiliau trefnu cryf, gyda'r gallu i reoli nifer o dasgau, olrhain camau a bodloni terfynau amser.
Meini prawf dymunol:
- Profiad o weithio ar bolisi addysg uwch, dysgu gydol oes neu sgiliau.
- Y gallu i weithio yn Gymraeg.
Cymorth gyda'ch cais
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.
Beth yw'r buddion i chi?
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.
Lleoliad Gweithio:Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i lleoli yn ôl y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl i hyn fod hyd at 3 diwrnod yn gweithio gartref a 2 ddiwrnod penodol yn y swyddfa (fel arfer ar ddydd Mercher a dydd Iau). Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.
Bydd angen mynd i ddigwyddiadau yn achlysurol y tu allan i oriau gwaith arferol, a theithio ledled Cymru yn achlysurol, e.e. i gynadleddau pleidiau er mwyn cyflawni'r rôl.
Camau nesaf yn y broses Recriwtio
Yr wythnos yn dechrau 11eg Mai 2026.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar.
Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
- CV
- Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod.
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.