Disgrifiad Swydd
Tiwtor Datblygu'r Gymraeg
ID y cais:  1546
Lleoliad y Swydd:  Caerdydd
Gweinyddiaeth:  Central Academic - Social Work
Cyflog:  £47,389 - £56,535 (pro rata ar gyfer oriau rhan-amser)
Dyddiad Cau:  Dydd Llun 15 Mehefin 2026
Oriau Gweithio Wythnosol:  18.5
Math o Gontract:  Parhaol
Contract Cyfnod Penodol: Dyddiad Gorffen:  Amherthnasol
Iaith Gymraeg::  Hanfodol

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).

Y Rôl

Mae'r rôl gyffrous hon yn galluogi deiliad y swydd i chwarae rôl weithredol i ddatblygu cyfleoedd i fyfyrwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn eu hastudiaethau ar gyfer gradd BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol (Cymru) yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i ddiwallu anghenion myfyrwyr Cymru, a chaiff ein hymrwymiad i gyfleoedd addysgol a chyfiawnder cymdeithasol ei grynhoi yn ein datganiad cenhadaeth, sef bod Y Brifysgol Agored yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau.

Mae'r Rhaglen Gwaith Cymdeithasol yn annog myfyrwyr a staff i ddefnyddio'r Gymraeg, beth bynnag fo lefel eu gallu. Yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys cyflwyno gweithdai wyneb yn wyneb dwyieithog (yn dibynnu ar sgiliau iaith tiwtoriaid), cyfathrebu electronig a darparu dogfennau allweddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall myfyrwyr gwblhau elfennau academaidd ac ymarferol o'r radd yn Gymraeg a/neu yn Saesneg, ac mae ein myfyrwyr yn croesawu'r dewis hwn.

Eich rôl fydd arwain y broses o sicrhau cymorth digonol a phriodol i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg wrth iddynt astudio ar gyfer y radd gwaith cymdeithasol (yn academaidd ac yn eu lleoliadau ymarfer dysgu), gan ganolbwyntio ar y modiwlau ymarfer dysgu.

Byddwch yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes drwy gefnogi myfyrwyr, diweddaru adnoddau ac ymgymryd â rôl ym maes datblygu staff er mwyn galluogi tiwtoriaid ac eraill i ddarparu cymorth priodol o ran y Gymraeg. Byddwch hefyd yn gweithio gyda'r tîm gwaith cymdeithasol yng Nghymru ac yn Milton Keynes i sicrhau cymorth priodol o ran y Gymraeg o fewn safbwynt pedair cenedl y DU.

Byddwch hefyd yn ymgysylltu â'r gymuned academaidd yng Nghymru a thu hwnt, drwy gydweithio â phartneriaid, Gofal Cymdeithasol Cymru a Sefydliadau Addysg Uwch eraill, yn ogystal â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Byddwch hefyd yn cyfrannu at fywyd academaidd yr Adran Gwaith Cymdeithasol ac yn datblygu eich proffil academaidd eich hun.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Gweithio gyda'r Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol (Cymru) a staff eraill i hyrwyddo a datblygu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ym modiwlau ymarfer gwaith cymdeithasol y radd BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol (Cymru)
  • Gweithio gyda'r Tîm Cymorth Myfyrwyr, staff y Gyfadran, Darlithwyr Cyswllt a Thiwtoriaid Ymarfer i nodi myfyrwyr sydd â Chymraeg fel dewis iaith, a darparu cymorth priodol;
  • Yn ôl yr angen, a gyda ffocws penodol ar gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, rhoi cyngor a chymorth i fyfyrwyr a chynghori aelodau dynodedig o staff ar eu cynnydd a'u hanghenion cymorth;
  • Hyrwyddo a datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd myfyrwyr, gan gynnwys cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg (er enghraifft, darparu arweiniad cyfrwng Gymraeg, darparu cymorth ar-lein/wyneb yn wyneb fel sy'n briodol);
  • Briffio a chefnogi Darlithwyr Cyswllt a Thiwtoriaid Ymarfer gyda'r nod o sicrhau bod darpariaeth y modiwlau ymarfer dysgu o ansawdd, gan roi sylw penodol i hyrwyddo darpariaeth ddwyieithog;
  • Helpu i sicrhau ansawdd ymarfer dysgu gan gynnwys cefnogi gwaith Tiwtoriaid Ymarfer lle mae angen cymorth cyfrwng Cymraeg;
  • Rhoi cyngor i'r Gyfadran ar strategaethau addysgu cyfrwng Gymraeg yn y modiwlau ymarfer dysgu, gan ystyried adborth gan diwtoriaid a myfyrwyr;
  • Gweithio mewn partneriaeth â rhaglenni Gwaith Cymdeithasol eraill yng Nghymru i ddatblygu cyfleoedd Cymru gyfan i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg ac mewn ymarfer Gwaith Cymdeithasol;
  • Cymryd rhan yn rhwydwaith maes pwnc gwaith cymdeithasol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
  • Ymgymryd â gweithgareddau marchnata a chysylltiadau allanol i hyrwyddo'r radd Gwaith Cymdeithasol, gan roi pwyslais penodol ar recriwtio myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg;
  • Ceisio rhagor o gyllid allanol at ddibenion datblygu cymorth priodol ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol o fewn Y Brifysgol Agored ac mewn partneriaeth â rhaglenni Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru;
  • Cyflwyno adroddiadau cynnydd rheolaidd i'r Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (Cymru), y Grŵp Cyflawni Rhaglen Gwaith Cymdeithasol, a'r Gyfadran ehangach fel sy'n briodol;
  • Cyfrannu at bortffolio ymchwil ac ysgolheictod y Gyfadran drwy ddatblygu cynllun ymchwil/ysgolheictod personol a'i roi ar waith yn unol â Strategaeth Ymchwil ac Ysgolheictod y Gyfadran, gan nodi cyfleoedd i hyrwyddo maes pwnc y Gyfadran o fewn y gymuned cyfrwng Gymraeg ehangach a manteisio arnynt, er enghraifft drwy gyhoeddi deunyddiau mewn cofnodlyfrau fel Gwerddon a chyflwyno papurau mewn cynadleddau a fforymau.
  • Cynrychioli'r Gyfadran a'r Brifysgol Agored yng Nghymru mewn pwyllgorau a grwpiau allanol perthnasol;
  • Helpu i weithredu polisïau academaidd y Gyfadran yng Nghymru a, gan ymgynghori â'r rheolwr llinell, gweithio gyda chydweithwyr o gyfadrannau eraill ac o Wasanaethau Myfyrwyr i ddatblygu a chyflwyno strategaeth y Brifysgol ar gyfer Cymru;
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill o fewn Y Brifysgol Agored yng Nghymru fel y bo angen.

Amdanoch Chi

Meini prawf hanfodol:

  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, yn Gymraeg ac yn Saesneg;
  • Gallu i hyrwyddo'r rhaglen Gwaith Cymdeithasol i unigolion, grwpiau a chwsmeriaid corfforaethol, yn Gymraeg ac yn Saesneg;
  • Gallu amlwg i hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r Gymraeg yn rhaglen Gwaith Cymdeithasol Y Brifysgol Agored yng Nghymru;
  • Bydd angen gradd gyntaf dda arnoch neu gymhwyster ôl-raddedig mewn maes pwnc perthnasol a chymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Cymdeithasol;
  • Profiad a dealltwriaeth o ymarfer Gwaith Cymdeithasol proffesiynol ac ymarfer dysgu yng Nghymru;
  • Gwybodaeth gadarn am ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol i ymarfer Gwaith Cymdeithasol, a materion presennol mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru, a dealltwriaeth ohonynt;
  • Gwybodaeth am y gofynion rheoleiddiol ar gyfer addysg ac ymarfer Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru;
  • Y gallu i gyfrannu at broffil academaidd y Gyfadran a'r tîm Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru yn unol â blaenoriaethau ymchwil ac ysgolheictod y Gyfadran;
  • Ymrwymiad i ddatblygiad personol parhaus a phrosesau diweddaru ym maes Gwaith Cymdeithasol;
  • Dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar ddewis iaith (Cymraeg/Saesneg) mewn Addysg Uwch ac mewn ymarfer Gwaith Cymdeithasol;
  • Y gallu i gydweithio mewn timau, a'r gallu i gyflawni mentrau perthnasol yn annibynnol, gan gynnwys gweithio o gartref;
  • Y gallu i rwydweithio a datblygu cydberthnasau gwaith effeithiol â sefydliadau allanol, gan gynnwys Sefydliadau Addysg Uwch eraill a Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Sgiliau trefnu da a'r gallu i gynllunio'n effeithiol a blaenoriaethu llwyth gwaith amrywiol;
  • Gallu amlwg i gefnogi gwaith datblygu proffesiynol cydweithwyr, gan roi sylw penodol i hyrwyddo amgylchedd dysgu dwyieithog;
  • Y gallu i ysgrifennu'n glir ac i gyrraedd terfynau amser, yn Gymraeg ac yn Saesneg;
  • Y gallu i gyflawni'r rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol;
  • Y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu at ddibenion cyfathrebu a gweinyddol;
  • Parodrwydd a gallu i deithio ledled Cymru ac i Milton Keynes, ac i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau weithiau.
  • Y gallu i addysgu a chefnogi myfyrwyr yn deg ac yn barchus yn unol â pholisïau'r Brifysgol.

Meini prawf dymunol:

  • Rhywfaint o brofiad o addysgu dysgwyr sy'n oedolion, yn enwedig yng nghyd-destun dysgu o bell ac mewn amgylchedd dwyieithog;
  • Profiad o addysgu ym maes Gwaith Cymdeithasol;
  • Gradd uwch a'r potensial i ddatblygu proffil ymchwil ac ysgolheictod.
  • Uwch Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch neu barodrwydd i weithio tuag at gais.

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Lleoliad Gweithio:Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i lleoli yn ôl y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar.

Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:

  • CV
  • Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod. Atodwch eich datganiad ategol i'r maes CV ar y ffurflen gais.


Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Cipolwg ar Wybodaeth
Rhannwch y swydd hon

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y broses recriwtio, neu ynghylch eich cais, cysylltwch â: Careers@open.ac.uk.

Chwilio am rolau Darlithydd Cysylltiol?

Defnyddiwch ein hafan Darlithwyr Cysylltiol i ddod o hyd i rolau Darlithwyr Cysylltiol.

Chwiliwch am rolau Darlithwyr Cysylltiol nawr >

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau staff.