Disgrifiad Swydd
Teitl Swydd:  Uwch-reolwr, Sgiliau ac Arloesi
ID y cais:  969
Lleoliad y Swydd:  Cardiff, O Bell/Hybrid
Gweinyddiaeth:  SALT
Cyflog:  £47,389 to £56,535
Dyddiad Cau:  15 September 2025
Oriau Gweithio Wythnosol:  37
Math o Gontract:  Contract Cyfnod Penodol
Contract Cyfnod Penodol: Dyddiad Gorffen:  12 months from start date
Iaith Gymraeg::  Dymunol
Disgrifiad Swydd: 

 

Rydym o'r farn na ddylai eich man cychwyn mewn bywyd gyfyngu ar eich taith.

Mae'r Brifysgol Agored yn sefydliad unigryw a grëwyd 50 mlynedd yn ôl er mwyn agor addysg i bawb. Rydym yn agored i unrhyw un, yn unrhyw le, yn newid miliynau o fywydau ledled y byd a phob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o helpu pobl i lwyddo. Mae ein defnydd arloesol o ddulliau dyfeisgar, fel ein partneriaeth BBC, yn golygu ein bod yn cyrraedd mwy o bobl nag unrhyw brifysgol arall.

Rydym yn gweithio ar draws pedair gwlad y DU a ni yw'r dewis mwyaf poblogaidd ar gyfer astudiaeth hyblyg, ar-lein o bell.

 

Gwybodaeth am y Rôl 

Fel un o ddau Uwch Reolwr yn y tîm Dysgu, Sgiliau ac Arloesi, byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu'n strategol ar agweddau penodol ar bortffolio gwaith y tîm, a allai gynnwys: 

  • Datblygu ein partneriaethau gyda chyflogwyr, gan gynnwys dulliau arloesol o fynd i'r afael ag anghenion sgiliau a datblygu'r gweithlu.  
  • Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r dirwedd sgiliau yng Nghymru, gan gynnwys blaenoriaethau economaidd a chymdeithasol a meysydd ffocws ar gyfer rhanddeiliaid Medr a Llywodraeth Cymru.
  • Gweithio gyda staff academaidd i wella cyfleoedd ymchwil ac arloesi i sicrhau amcanion cyfnewid gwybodaeth, arloesi a masnacheiddio.
  • Gweithio ochr yn ochr â sefydliadau yn y gymuned a’r trydydd sector, i ehangu mynediad at addysg uwch a chydweithio i ddylunio atebion dysgu sy'n mynd i'r afael ag anghenion a blaenoriaethau sgiliau.
  • Arwain ar ddarpariaeth Gyrfaoedd, Cyflogadwyedd ac Entrepreneuriaeth yng Nghymru i helpu ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau. 

 

Byddwch yn gyfrifol am reoli tîm bach o staff, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, cyflogwyr ac amrywiaeth o randdeiliaid i gryfhau ein hymgysylltiad lleol a rhanbarthol a datblygu dull cydlynol o ymgysylltu â chyflogwyr yng Nghymru. Byddwch yn sganio'r amgylchedd polisi a gwleidyddol mewn perthynas â sgiliau, cyflogadwyedd, menter ac arloesedd ac yn nodi cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg.  

Fel aelod creadigol ac arloesol o dîm sydd â meddylfryd twf, byddwch yn defnyddio arbenigedd ymchwil ac addysgu helaeth y Brifysgol Agored, y cwricwlwm a dulliau unigryw i ymateb i anghenion cyflogwyr, dysgwyr a sefydliadau partner yng Nghymru.  

Byddwch hefyd yn arwain ein gwaith gwerthuso yn y maes hwn, gan sicrhau bod canlyniadau ac effeithiau ein gwaith yn cael eu deall yn dda ac yn cyfrannu at sylfaen dystiolaeth gref i lywio datblygiadau yn y dyfodol a chefnogi ein hadroddiadau i Medr a Llywodraeth Cymru. 

 

 

Prif Gyfrifoldebau

  • Arwain y gwaith o gynllunio, gweithredu, gwerthuso ac adrodd yn strategol ar waith sgiliau ac arloesi'r Brifysgol Agored yng Nghymru, gan chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddyfnhau a datblygu ein gwaith gyda chyflogwyr a sefydliadau partner sy'n gysylltiedig â sgiliau, yn unol â strategaeth y Brifysgol Agored yng Nghymru.    
  • Datblygu dealltwriaeth gref o'r agenda sgiliau genedlaethol a rhanbarthol a blaenoriaethau'r sector drwy ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, Medr, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill yn ôl yr angen.  
  • Cefnogi cydweithwyr ar draws y Brifysgol i ddeall a gwireddu'r cyfleoedd sgiliau ac arloesi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i gynyddu nifer y myfyrwyr ac arallgyfeirio incwm.
  • Cefnogi ceisiadau am gyllid drwy brosesau cymeradwyo allanol a'r Brifysgol Agored, gan gynnwys costio prosiectau a sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau'r brifysgol a thelerau ac amodau cyllidwyr.  
  • Sefydlu perthynas waith gref gyda rhanddeiliaid a rhwydweithiau allweddol ar draws y Brifysgol Agored, gan roi gwybod i gydweithwyr am gyfleoedd gyfranogi’n academaidd mewn gweithgareddau yng Nghymru a chefnogi eu hymgysylltiad.  
  • Cymryd yr awenau o ran gweithgareddau gwerthuso, casglu a dadansoddi data, ysgrifennu adroddiadau a gweithgareddau lledaenu eraill yn y meysydd hyn, gan gynnwys cynhyrchu, casglu a churadu tystiolaeth ar gyfer gweithgareddau sgiliau'r Brifysgol Agored yng Nghymru sy'n ymwneud â gweithgarwch ansawdd a monitro allanol perthnasol gyda chyllidwyr a rheoleiddwyr e.e. rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd wedi'i Dargedu i Fyfyrwyr (TESS) ac unrhyw adroddiadau eraill yn ôl yr angen.
  • Cynrychioli buddiannau'r Brifysgol Agored yng Nghymru mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol sy'n ymwneud â sgiliau, cyflogadwyedd, menter ac arloesedd, gan arwain y grwpiau hyn fel y bo'n briodol.
  • Rheoli cyllidebau yn eich maes gwaith, gan gynnwys rhagamcanu, monitro a sicrhau'r gwerth gorau.  
  • Nodi cyfleoedd i hyrwyddo, cyhoeddi a rhannu eich llwyddiannau, llwyddiannau eich tîm a llwyddiannau'r Brifysgol Agored yng Nghymru.  
  • Gweithio gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i sicrhau bod myfyrwyr a chyflogwyr yng Nghymru yn cael eu cefnogi'n briodol i gyflawni eu nodau
  • Efallai y bydd gofyn i chi ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n rhesymol ofynnol o fewn natur dyletswyddau a chyfrifoldebau'r rôl, yn ddibynnol ar yr amod y bydd unrhyw newidiadau o natur barhaol fel arfer yn cael eu hymgorffori yn y disgrifiad swydd mewn termau penodol. 

 

Disgwylir i'r holl staff wneud y canlynol: 

  • Cydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch a Chyfle Cyfartal y Brifysgol wrth gyflawni eich dyletswyddau.
  • Cymryd gofal rhesymol o'ch Iechyd a'ch Diogelwch eich hun ac Iechyd a Diogelwch unrhyw un arall y gallai eich gweithredoedd neu eich esgeulustod yn y gwaith effeithio arnynt.  
  • Cydweithredu â'r Brifysgol Agored i sicrhau, cyn belled ag y bo angen, y cydymffurfir â Gofynion Statudol, Codau Ymarfer, Polisïau'r Brifysgol a threfniadau Iechyd a Diogelwch Adrannol.
  • Dangos ymrwymiad cryf i egwyddorion ac ymarfer cydraddoldeb ac amrywiaeth. 
     

 

Sgiliau a Phrofiad 

Hanfodol  

  • Ymrwymiad i werthoedd y Brifysgol: Ymrwymiad cryf i weledigaeth a gwerthoedd y Brifysgol Agored a dealltwriaeth ohonynt. 
  • Cymwysterau addysgol: gradd neu sgiliau a phrofiad cyfatebol. 
  • Gwybodaeth am y dirwedd sgiliau a/neu arloesi yng Nghymru: Gwybodaeth sylweddol am ddatblygu sgiliau, dysgu seiliedig ar waith a/neu arloesi yng Nghymru, gan gynnwys dealltwriaeth o ysgogwyr polisi addysg uwch a mecanweithiau darparu cysylltiedig (e.e. Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, addysg alwedigaethol fel gradd-brentisiaethau, cynlluniau cyllido arloesedd). 
  • Rheoli Prosiectau: Profiad cryf o reoli prosiectau, gan gynnwys gweithredu, gwerthuso, rheoli cyllideb, a lledaenu gwybodaeth. 
  • Sgiliau rhyngbersonol a rheoli perthnasoedd: Sgiliau rhyngbersonol eithriadol gyda'r gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd yn effeithiol, sefydlu hygrededd, dylanwad a negodi gydag amrywiol randdeiliaid, gan ganolbwyntio'n benodol ar gyflogwyr a diwydiant.
  • Hyfedredd cyfathrebu: Sgiliau cyfathrebu clir ac effeithiol wedi'u teilwra ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau a rhoi cyflwyniadau. 
  • Rheoli tîm: Gallu arwain a rheoli timau sy'n darparu gwasanaethau i gwsmeriaid, cyflogwyr neu fyfyrwyr yn effeithiol, gan feithrin gwaith tîm, cydweithio, arloesi a chymhelliant ymysg cydweithwyr.  
  • Menter a gwneud penderfyniadau'n annibynnol: Gallu gweithio'n annibynnol, gwneud penderfyniadau ystyriol, a datrys problemau gyda hwylustod, deallusrwydd a sensitifrwydd. 
  • Llythrennedd digidol: Yn fedrus mewn tasgau swyddfa bob dydd, gan gynnwys gweithrediadau cyfrifiadurol sylfaenol, Microsoft Office 365, offer cyfathrebu drwy e-bost, ymchwil rhyngrwyd, rheoli data sylfaenol, egwyddorion seiberddiogelwch, a'r gallu i addasu i feddalwedd newydd. 
  • Yr Iaith Gymraeg: Dealltwriaeth o'r gofynion a'r cyfleoedd sy'n codi o weithio mewn cyd-destun dwyieithog.  

 

Dymunol:  

  • Rheoli cynigion a phartneriaethau: Hanes llwyddiannus o arwain cynigion a bidiau partneriaeth. 
  • Gwybodaeth am addysg ran-amser i oedolion: Dealltwriaeth o anghenion dysgwyr rhan-amser sy'n oedolion a'r heriau sy'n wynebu myfyrwyr mewn cyd-destun dysgu o bell. 
  • Gwybodaeth am y sector Addysg Uwch: Gwybodaeth a/neu brofiad rhagorol o sector addysg uwch y DU gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o addysg uwch yng Nghymru. 
  • Yr Iaith Gymraeg: Gallu cyfathrebu yn Gymraeg, neu barodrwydd i ddysgu. 

 

 

Gofynion hanfodol

Mae'r swydd hon wedi'i lleoli yng Nghaerdydd lle byddwch yn gweithio o'r swyddfa yng Nghaerdydd 2 ddiwrnod yr wythnos o leiaf. Byddem hefyd yn rhagweld yr angen am hyblygrwydd o ran gofynion y busnes. Serch hynny, rydym yn hapus i gael trafodaeth ynghylch trefniadau gweithio hybrid, yn ddibynnol ar amgylchiadau unigol. Bydd disgwyl i chi deithio rhywfaint o gwmpas Cymru ac i leoliadau eraill y Brifysgol Agored yn ôl yr angen. Rydym yn fodlon ystyried trefniadau amgen a byddem yn annog unigolion sy'n byw yng ngogledd, canolbarth neu orllewin Cymru i wneud cais am y swydd hon.


Sut i wneud cais: I wneud cais ar gyfer y swydd hon, cyflwynwch y canlynol fel dogfennau ar wahân:

  • CV
  • Datganiad ategol hyd at 1000 o eiriau. Dylech nodi yn eich datganiad pam fod gennych ddiddordeb yn y swydd a darparu enghreifftiau o sut mae'ch sgiliau a phrofiad yn bodloni'r cymwyseddau ar gyfer y rôl hon fel y manylir yn y swydd ddisgrifiad.

 

Noder: Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os derbynnir nifer boddhaol o geisiadau. Rydym felly'n annog ceisiadau cynnar.

Cipolwg ar Wybodaeth
Rhannwch y swydd hon

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y broses recriwtio, neu ynghylch eich cais, cysylltwch â: Careers@open.ac.uk.

Chwilio am rolau Darlithydd Cysylltiol?

Defnyddiwch ein hafan Darlithwyr Cysylltiol i ddod o hyd i rolau Darlithwyr Cysylltiol.

Chwiliwch am rolau Darlithwyr Cysylltiol nawr >

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau staff.