Disgrifiad Swydd
Dirprwy Gyfarwyddwr, TAR (Cymru)
ID y cais:  1533
Lleoliad y Swydd:  Caerdydd
Gweinyddiaeth:  Education
Cyflog:  £59,966 - £67,468
Dyddiad Cau:  1 Mehefin 2026
Oriau Gweithio Wythnosol:  37
Math o Gontract:  Contract Cyfnod Penodol
Contract Cyfnod Penodol: Dyddiad Gorffen:  Contract Tymor Sefydlog am 36 mis o'r dyddiad dechrau
Iaith Gymraeg::  Dymunol

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).

Y Rôl

Mae Dirprwy Gyfarwyddwr TAR (Cymru) yn darparu arweinyddiaeth academaidd a gweithredol uwch ar gyfer y rhaglen TAR, gan weithio mewn partneriaeth agos â Chyfarwyddwr y rhaglen TAR. Mae'r rôl yn arddel cyfrifoldeb dirprwyedig am arweinyddiaeth strategol, cynllunio'r cwricwlwm, ansawdd academaidd, trefniadau partneriaeth, a chydymffurfiaeth reoliadol ar draws rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon gymhleth, ddwyieithog ac aml-bartner.

Mae hon yn swydd arweinyddiaeth academaidd uwch sy'n cyfateb i lefel Uwch-ddarlithydd (Addysgu ac Ysgolheictod) ar lefel AC4, gan gyfuno arweinyddiaeth y rhaglen ag addysgu, ymchwil ac ysgolheictod, arloesedd cwricwlaidd, ac ymgysylltu academaidd allanol. Mae deiliad y swydd yn sicrhau cydlyniant, ansawdd a gwelliant parhaus wrth ddarparu'r rhaglen, yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, gofynion SAC, trefniadau llywodraethu academaidd Y Brifysgol Agored, ynghyd â rheoleiddwyr allanol, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg ac Estyn. 

Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn cyfrannu at ddatblygiad strategol Addysg Gychwynnol i Athrawon yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru ac yn chwarae rhan weithredol mewn trafodaethau cenedlaethol ac ar draws y sector ynghylch addysg athrawon, polisi a datblygu'r gweithlu.  

Mae'r TAR yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig llwybr hyblyg i'r proffesiwn addysgu, sydd o bwys cenedlaethol. Mae'n cyfuno dysgu ar-lein, addysgu byw a lleoliadau mewn ysgolion, gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Caiff y rhaglen ei darparu ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru drwy bartneriaeth helaeth o ysgolion, mentoriaid a staff prifysgolion, mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae'n chwarae rhan ganolog wrth ehangu mynediad i'r proffesiwn, cryfhau amrywiaeth y gweithlu, a chefnogi blaenoriaethau cenedlaethol, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg a recriwtio ar gyfer pynciau lle mae prinder.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Darparu arweinyddiaeth academaidd, goruchwylio'r cwricwlwm, ymgysylltu â phartneriaethau, cymorth o ran cydymffurfiaeth reoliadol, ac addysgu.
  • Darparu arweinyddiaeth academaidd uwch ar draws y rhaglen TAR, gan gefnogi'r Cyfarwyddwr o ran datblygiad strategol, goruchwylio'r ddarpariaeth, a gwelliant parhaus.  
  • Cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o gynllunio, datblygu, adolygu a gwella modiwlau a'r cwricwlwm ar lefel y rhaglen, gan gynnwys darpariaeth newydd lle bo angen. 
  • Arwain y ddarpariaeth weithredol ym mhob rhan o dîm y cwricwlwm, gan sicrhau gweithredu cyson o ansawdd uchel ar draws holl lwybrau'r rhaglen.
  • Datblygu a chymhwyso dulliau arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer addysgu, dysgu ac asesu o fewn model AGA dysgu cyfunol a dysgu o bell. 
  • Sicrhau bod y gwaith o gynllunio a chyflawni'r cwricwlwm yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, gofynion SAC, a safonau llywodraethu academaidd Y Brifysgol Agored. 
  • Goruchwylio'r gwaith o gynllunio asesiadau, prosesau cymedroli, safoni a sicrhau ansawdd er mwyn sicrhau tegwch, cysondeb ac uniondeb academaidd. 
  • Arwain a chefnogi'r Tiwtoriaid Cwricwlwm, gan gynnwys dyrannu llwyth gwaith, rheoli perfformiad a datblygiad proffesiynol.
  • Darparu trefniadau goruchwylio uwch ar gyfer partneriaethau ysgolion ledled Cymru, gan sicrhau cysondeb, ansawdd a thegwch o ran profiadau dysgu ar leoliad.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu, hyfforddi a sicrhau ansawdd mentoriaid a thiwtoriaid ymarfer ym mhob rhan o system y bartneriaeth. 
  • Sicrhau cydymffurfiaeth gadarn â fframweithiau rheoliadol, gan gynnwys gofynion Cyngor y Gweithlu Addysg, disgwyliadau Estyn, a pholisi AGA Llywodraeth Cymru.
  • Cyfrannu at y gwaith o gynllunio busnes, dyrannu adnoddau, a sicrhau cynaliadwyedd ariannol y rhaglen. 
  • Arwain prosesau gwella parhaus a gwella ansawdd, gan gynnwys monitro systematig, gwerthuso a chynllunio camau gweithredu.
  • Goruchwylio profiad academaidd myfyrwyr, gan sicrhau tegwch, cysondeb ac uniondeb wrth wneud penderfyniadau ynghylch asesu a chynnydd.
  • Cyfrannu at ehangu cyfranogiad, cynhwysiant, a chanlyniadau gwell ar draws carfannau amrywiol o fyfyrwyr.
  • Ymgymryd â gwaith cynllunio gweithredol effeithiol ar draws blaenoriaethau croes mewn amgylchedd rhaglen gymhleth a gwasgaredig. 

Amdanoch Chi

Meini prawf hanfodol:

  • Gradd anrhydedd a chymhwyster ôl-raddedig mewn addysg neu faes cysylltiedig (lefel Meistr o leiaf;  PhD yn ddymunol). Bydd rhaid i ymgeiswyr ar lefel gradd Meistr ddangos ymrwymiad i ymgymryd â Doethuriaeth mewn Addysg (EdD) yn Y Brifysgol Agored.
  • Statws Athro Cymwysedig (SAC).
  • Gwybodaeth fanwl ac arbenigedd cydnabyddedig mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon a system addysg Cymru, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru a'r cyd-destun polisi cyfredol. 
  • Profiad sylweddol o arweinyddiaeth ym maes Addysg Gychwynnol i Athrawon, datblygu athrawon, neu faes cysylltiedig agos. 
  • Gallu amlwg i gynllunio, cyflwyno ac adolygu'r cwricwlwm neu fodiwlau mewn cyd-destunau addysg uwch neu addysg broffesiynol.
  • Profiad o ddefnyddio technolegau digidol i wella prosesau addysgu, dysgu, asesu a chyflwyno rhaglenni.
  • Tystiolaeth o ymgysylltu ag ymchwil addysgol, ymholiadau ymarferwyr, neu weithgarwch ysgolheigaidd sy'n berthnasol i addysg athrawon. 
  • Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu cryf, ynghyd â'r gallu i rannu syniadau academaidd, addysgegol a rheoliadol cymhleth â chynulleidfaoedd amrywiol.
  • Y gallu i gyflawni'r rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol.
  • Y gallu a'r parodrwydd i deithio ledled Cymru ac i weithio'n rheolaidd o swyddfa Caerdydd, gan dreulio mwy na 50% o'r amser dan y contract yng Nghymru. 

Meini prawf dymunol:

  • Yn rhugl yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) neu brofiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog. 
  • Profiad o weithio gyda fframweithiau arolygu, achredu neu reoleiddio (e.e. Estyn, CGA neu gyrff tebyg).
  • Profiad o weithio ym maes addysg gychwynnol i athrawon, rhaglenni proffesiynol neu ddarpariaeth sy'n seiliedig ar bartneriaethau.
  • Profiad o gyfrannu at neu arwain ymchwil addysgol, cyhoeddiadau neu gyflwyniadau mewn cynadleddau. 
  • Profiad o arwain neu gyfrannu at weithgarwch gwella prosesau neu newid sefydliadol.
  • Cymhwyster neu gydnabyddiaeth addysgu Addysg Uwch (e.e. Cymrodoriaeth Advance HE neu gyfwerth).

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Lleoliad Gweithio: Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i lleoli yn ôl y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl y bydd hyn tua deuddydd y mis.  Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.

Disgwylir i ddeiliad y swydd hefyd deithio ledled Cymru i fynd i gyfarfodydd partneriaeth, cyfarfodydd llywodraethu a chyfarfodydd â rhanddeiliaid.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar.

Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:

  • CV
  • Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod. 


Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Cipolwg ar Wybodaeth
Rhannwch y swydd hon

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y broses recriwtio, neu ynghylch eich cais, cysylltwch â: Careers@open.ac.uk.

Chwilio am rolau Darlithydd Cysylltiol?

Defnyddiwch ein hafan Darlithwyr Cysylltiol i ddod o hyd i rolau Darlithwyr Cysylltiol.

Chwiliwch am rolau Darlithwyr Cysylltiol nawr >

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau staff.