Disgrifiad Swydd
Swyddog Prosiect EDI (Siarter Cydraddoldeb Hil)
ID y cais:  1212
Lleoliad y Swydd:  O Bell/Hybrid
Gweinyddiaeth:  Equality Diversity & Inclusion
Cyflog:  £38,784 to £42,254
Dyddiad Cau:  24 Tachwedd 2025
Oriau Gweithio Wythnosol:  37
Math o Gontract:  Contract Cyfnod Penodol
Contract Cyfnod Penodol: Dyddiad Gorffen:  1 flwyddyn o'r dyddiad dechrau
Iaith Gymraeg::  Dymunol

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).

Y Rôl

Rydym yn chwilio am Swyddog Prosiect profiadol a threfnus iawn i gefnogi gwaith Siarteri a Meincnodau wrth gyflawni blaenoriaethau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y brifysgol. Byddwch yn gyfrifol am gefnogi Arweinydd Prosiect y Siarter Cydraddoldeb Hiliol (REC) yn rhagweithiol i reoli ymrwymiad a blaenoriaethau'r brifysgol i'r REC a datblygu a chydlynu ystod o weithgareddau ymgysylltu a mewnwelediad (er enghraifft cyflwyniadau, ymchwil, adroddiadau, gweithdai a grwpiau ffocws) sy'n gysylltiedig â'r REC ar gyfer rhanddeiliaid ar draws y Brifysgol. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr o gyfadrannau prifysgol, ysgolion ac unedau proffesiynol yn ogystal â phwyllgorau, grwpiau llywio, rhwydweithiau staff.

Wedi'i ariannu gan gyllid Gwrth-hiliol Medr (Medr), bydd gennych gyfrifoldeb penodol i gefnogi cyflawniad blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru, yn benodol Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru. Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr yng Nghymru yn ogystal â'r tîm EDI canolog, byddwch yn mabwysiadu dull cyfannol i gydnabod sut mae hil ac ethnigrwydd yn croestorri â nodweddion gwarchodedig eraill a grwpiau a materion cymdeithasol, gan gynllunio a chyflawni gweithgareddau sy'n cyd-fynd â hyn.

Noder: Swydd contract tymor penodol o 1 flwyddyn yw hon. Mae'n bosibl y bydd y rôl hon yn cael ei hymestyn y tu hwnt i 1 flwyddyn, ond ni ellir gwarantu hyn ar hyn o bryd.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cefnogi Arweinydd Prosiect REC, Ymchwil a Chyflwyno yn rhagweithiol gyda ddatblygu a chydymffurfiaeth barhaus siarteri cydraddoldeb, meincnodi, prosiectau a chyflwyniadau
  •  Trwy rheoliad prosiect da, byddech yn gyrru atebolrwydd a chynnydd parhaus y prosiect REC a'r camau cyflwyno trwy adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid ar draws y brifysgol
  • Cyfrannu'n rhagweithiol at ganlyniadau effeithiol y tîm EDI, a phwyllgorau REC trwy ddarparu cefnogaeth weithredol gan gynnwys bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau ynglyn â’r siarter REC, mynychu cyfarfodydd perthnasol, paratoi agendâu a phapurau, rheoli dyddiadur a chymryd nodiadau
  • Cefnogi ymgorffori polisïau ac arferion gwrth-hiliol, alinio gweithgaredd i fodloni disgwyliadau Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru Llywodraeth Cymru
  • Dylunio a chydlynu digwyddiadau fel gweithdai a sesiynau grwpiau ffocws. (Sylwch y gallai hyn olygu teithio achlysurol i Brifysgol Agored Milton Keynes neu Brifysgol Agored Cymru (Caerdydd))
  • Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddata a ffynonellau gan gynnwys ymchwil cyfrifiadurol, cyfrannu at ddatblygu papurau, polisïau, nodiadau briffio, cyflwyniadau ac adroddiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Gweithio gyda chydweithwyr Cyfathrebu i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau cyfathrebu priodol ac amserol i staff a myfyrwyr drwy gydol cylch bywyd prosiect neu weithgareddau cysylltiedig.
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill a allai fod yn ofynnol, gan gynnwys cyfrannu at waith siarter arall.
  • Cefnogi Arweinydd y Prosiect Cydraddoldeb Hiliol gyda dadansoddiad o ddata meintiol ac ansoddol i gefnogi'r gwaith cydraddoldeb hiliol.

Amdanoch Chi

Hanfodol:

  • Arddangosiad o ymrwymiad personol a phroffesiynol i ddeall hiliaeth, gwrth-hiliaeth, gwrth-wahaniaethu, ecwiti a chynhwysiant.
  • Profiad o arwain neu gefnogi prosiectau, mentrau neu fframweithiau achredu sy'n gysylltiedig â hil, ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Gallu profedig i ddatrys problemau trwy feddwl dadansoddol a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio data meintiol ac ansoddol.
  • Sgiliau trefnu, rheoli prosiectau a chydlynu rhagorol, gyda'r gallu i reoli prosiectau lluosog a chyflawni terfynau amser cystadleuol.
  • Sgiliau rhyngbersonol, dylanwadu a chyfathrebu eithriadol (ar lafar ac yn ysgrifenedig) gan gynnwys y gallu i ddatblygu a chyflwyno cyflwyniadau, adroddiadau a briffiau wedi'u teilwra i randdeiliaid â lefelau o ddealltwriaeth ac amcanion amrywiol.
  • Gallu cryf i weithio'n effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o dîm, gan reoli llwyth gwaith personol yn effeithlon.
  • Profiad gwaith perthnasol neu gymwysterau ar Lefel 6 RQF (Lloegr a Gogledd Iwerddon), lefel 9 neu 10 SCQF (Yr Alban), Lefel 6 CQFW (Cymru) a lefel 7 neu 8 NFQ (Iwerddon).

 

Dymunol:

  • Profiad o'r sector Addysg Uwch
  • Ymwybyddiaeth o’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol (REC) a dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb hiliol a chroestoriad hil â nodweddion gwarchodedig eraill

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Mae hon yn rôl o bell, fodd bynnag efallai y bydd angen i chi fynychu ar y safle o bryd i’w gilydd (tua unwaith bob chwarter) ym Milton Keynes ac yng Nghaerdydd, ond bydd unrhyw gostau teithio yn cael eu talu.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Bydd y broses ferio yn digwydd ar 5 Rhagfyr 2025, gyda’r cyfweliadau yn debygol o gael eu cynnal ar 15 Rhagfyr 2025.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar. 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:

  • CV
  • Ynghyd â’ch cais, gofynnir i chi ateb 8 cwestiwn ategol. Dylai pob ateb fod yn ddim mwy na 200 o eiriau. Mae’r cwestiynau hyn yn rhan o’r ffurflen gais ac yn ymddangos pan fyddwch yn clicio “apply” ac yn cyflwyno eich CV.


Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Nodwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfweliad neu unrhyw fath arall o asesiad. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd os bydd angen un.

Cipolwg ar Wybodaeth
Rhannwch y swydd hon

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y broses recriwtio, neu ynghylch eich cais, cysylltwch â: Careers@open.ac.uk.

Chwilio am rolau Darlithydd Cysylltiol?

Defnyddiwch ein hafan Darlithwyr Cysylltiol i ddod o hyd i rolau Darlithwyr Cysylltiol.

Chwiliwch am rolau Darlithwyr Cysylltiol nawr >

Mae'r Brifysgol Agored wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall pawb yng nghymuned y Brifysgol Agored gyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod bod gwahanol bobl yn cynnig gwahanol safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth, a diwylliant, a bod y gwahaniaeth hwn yn cynnig cryfder mawr. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb trwy ein polisïau, gwasanaethau a rhwydweithiau staff.